Afon Cleddau Wen
Math | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 354.48 ha |
Cyfesurynnau | 51.871236°N 4.848406°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Ceir dwy ran i Afon Cleddau Wen (ffurf amgen: Cleddy Wen), sy'n rhan o Afon Cleddau yn Sir Benfro. Tardda'r rhan ddwyreiniol yn Llygad Cleddau ym mhlwyf Llanfair Nant y Gôf, 4 km i'r de-ddwyrain o Abergwaun. Llifa tua'r de-orllewin heibio Scleddau. Tardda'r gangen orllewinol ym Mhenysgwarne ym mhlwyf Llanreithan, a llifa tua'r dwyrain i ymuno a'r gangen arall. Llifa'r Cleddau Wen trwy Gas-blaidd i Hwlffordd, lle ceir effaith y llanw.
Cadwraeth
[golygu | golygu cod]Mae Afon Cleddau Wen wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SSSI) ers 24 Mawrth 2003 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle. Mae ei arwynebedd yn 354.48 hectar. Gyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.
Dynodwyd y safle oherwydd agweddau biolegol er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd biolegol fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.