Aladdin (ffilm 2019)
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dyddiad cyhoeddi | 24 Mai 2019, 22 Mai 2019, 23 Mai 2019 |
Genre | ffilm ramantus, ffilm antur, ffilm gerdd, ffilm ffantasi, ffilm ffuglen ddyfaliadol, ffilm deuluol, ffilm llawn cyffro |
Lleoliad y gwaith | Moroco |
Hyd | 128 munud, 129 munud |
Cyfarwyddwr | Guy Ritchie |
Cynhyrchydd/wyr | Dan Lin |
Cwmni cynhyrchu | Walt Disney Pictures, Lin Pictures |
Cyfansoddwr | Alan Menken |
Dosbarthydd | Walt Disney Studios Motion Pictures, Microsoft Store, Disney+ |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Alan Stewart |
Gwefan | https://movies.disney.com/aladdin-2019 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffilm ffantasi gerddorol Americanaidd yw Aladdin. Rhyddhawyd yn 2019, gynhyrchwyd gan Walt Disney Pictures, a chafodd ei gyfarwydd gan Guy Ritchie, a ysgrifennodd ar y cyd â John August. Mae'n addasiad actorion-byw o ffilm animeiddiedig Disney o'r un enw yn 1992, sydd yn seiliedig ar y stori o'r un enw o'r Mil ac Un o Nosweithiau.[1] Mae actorion y ffilm yn cynnwys Will Smith, Mena Massoud, Naomi Scott, Marwan Kenzari, Navid Negahban, Nasim Pedrad, Billy Magnussen, a Numan Acar, yn ogystal â lleisiau Alan Tudyk a Frank Welker. Mae'r Fred Walker chwarae'r un cymeriadau a wnaeth chwarae ym mhob ffilm flaenorol. Mae'r plot yn dilyn Aladdin, crwt y stryd, sy'n cwympo mewn cariad â'r Dywysoges Jasmine, yn dod yn ffrindiau â Genie sy'n medru grantio dymuniadau, ac yn brwydro yn erbyn y Jafar.
Ym mis Hydref 2016, cyhoeddodd Disney y byddai Ritchie yn cyfarwyddo'r fersiwn newydd actorion-byw o Aladdin. Smith oedd aelod cyntaf y cast i ymuno, i bortreadu Genie, ym mis Gorffennaf 2017, a chadarnhawyd Massoud a Scott ar gyfer y ddwy rôl arweiniol yn ddiweddarach y mis hwnnw. Dechreuodd y prif ffilmio y mis Medi hwnnw yn Studios Longcross yn Surrey, Lloegr. Ffilmion nhw hefyd yn yr anialwch Wadi Rum yn yr Iorddonen. Parhaodd y ffilmio tan fis Ionawr 2018. Digwyddodd ffilmio ychwanegol ym mis Awst 2018.
Rhyddhawyd Aladdin yn theatrau yn yr Unol Daleithiau ar 24 Mai 2019. Fe elwodd $1 biliwn ledled y byd. Roedd y nawfed ffilm fwyaf llwyddiannus 2019, a'r 34ain ffilm fwyaf llwyddiannus erioed. Derbyniodd y ffilm adolygiadau cymysg gan feirniaid, gyda chanmoliaeth am ei sgôr gerddorol, dyluniad gwisgoedd, hiwmor, a pherfformiadau Smith, Massoud, a Scott, ond derbyniodd beirniadaeth wael am gyfarwyddiad Ritchie, castio Kenzari a’r sgript.[2]
Stori
[golygu | golygu cod]Mae Aladdin, crwt stryd yn ninas Agrabah yn Arabia, a'i fwnci Abu yn cwrdd â'r Dywysoges Jasmine, sydd wedi sleifio allan o'r palas. Mae Jasmine yn dymuno olynu ei thad fel Swltan, ond yn lle hynny mae disgwyl iddi briodi tywysog. Un o rheini yw'r Tywysog Anders sy'n ddengar ond yn llai na'n glyfar. Mae Jafar, y Prif Fisir, yn cynllunio i ddymchwel y Swltan. Mae'n chwilio am lamp hud wedi'i chuddio yn Ogof y Rhyfeddodau, ond dim ond "y diemwnt yn y garw" all fynd i mewn i'r ogof.
Ar ôl sleifio i mewn i'r palas brenhinol i ymweld â Jasmine, mae Aladdin yn cael ei gipio gan Jafar. Mae'n cynnig gwneud Aladdin yn ddigon cyfoethog y gall greu argraff ar Jasmine, os yw'n adfer y lamp iddo. Mae'n ei rybuddio i beidio â chymryd dim byd arall. Y tu mewn i'r ogof, mae Aladdin yn rhyddhau carped hud ac yn dod o hyd i'r lamp, ond ni allai Abu wrthsefyll cyffwrdd darn o drysor, ac mae hwn yn achosi i'r ogof gwympo i lawr gyda nhw y tu fewn. Mae Aladdin yn rhoi'r lamp i Jafar, ond mae Jafar yn ei bradychu a'i gicio nôl mewn i'r ogof. Ond mae Abu yn dwyn y lamp yn ôl cyn i geg yr ogof cau.
Yn gaeth yn yr ogof, mae Aladdin yn rhwbio'r lamp, sy'n galw'r Genie hollalluog ar ddamwain. Mae'r Genie yn egluro i Aladdin bod ganddo'r pŵer i roi tri dymuniad iddo. Mae Aladdin yn eu cael allan o'r ogof heb ddefnyddio dymuniad trwy dwyllo'r Genie. Yn benderfynol o wneud argraff dda ar Jasmine, mae'n defnyddio ei ddymuniad cyntaf i ddod yn dywysog. Mae'n addo defnyddio ei dymuniad olaf i ryddhau'r Genie o'i gaethwasanaeth a'i droi'n ddyn.
Mae Aladdin yn cyrraedd Agrabah mewn steil fel y Tywysog Ali o Ababwa, ond mae'n methu â chreu argraff ar Jasmine. Drwy ymddwyn fel gwas Aladdin, mae'r Genie yn dechrau dod yn hoff o Dalia, llawforwyn i Jasmine. Mae Aladdin a Jasmine yn dod yn agos pan mae e'n ei chymryd ar daith ar y carped hud.
Mae Jafar yn darganfod taw'r Tywysog Ali yw Aladdin ac yn ei daflu i mewn i ffos y palas, gan wybod os bydd Aladdin yn goroesi bydd hwn yn profi bod ganddo'r lamp. Mae'r Genie yn achub y crwt gan ddefnyddio ail ddymuniad Aladdin. Mae Aladdin yn dychwelyd i'r palas ac yn dinistrio staff hud Jafar, sy'n dod i ben a'r hud sy'n rheoli'r Swltan, ac yn datgelu cynllun Jafar. Mae Jafar felly yn cael ei garcharu. Mae'r Swltan yn caniatáu i Aladdin briodi Jasmine. Mae Aladdin yn penderfynu peidio â defnyddio'i ddymuniad olaf i ryddhau'r Genie, oherwydd mae'n gwybod y bydd yn colli Jasmine os caiff y gwir ei datblygu. Mae hwn yn siomi'r Genie.
Mae macaw ysgarlad Jafar, Iago, yn rhyddhau ei meistr, ac mae Jafar yn dwyn y lamp ac yn dod yn feistr newydd y Genie. Mae'n defnyddio ei ddymuniad cyntaf i ddod yn Swltan, ond mae Jasmine yn atgoffa gwarchodwyr y palas o'u gwir deyrngarwch, felly maent yn troi yn erbyn Jafar. Felly mae'n defnyddio ei ail ddymuniad i ddod yn ddewin fwyaf pwerus y byd. Mae Jafar yn datgelu i bawb pwy yw Aladdin, ac yn ei ddiarddel ef ac Abu i dir diffaith oer. Yna mae'n bygwth lladd y Swltan a Dalia oni bai bod Jasmine yn cytuno i'w briodi. Mae'r carped hud yn achub Aladdin ac Abu a'i ddod yn ôl i Agrabah. Yn y briodas, mae Jasmine yn cipio’r lamp ac yn dianc gydag Aladdin ac Abu. Mae Jafar yn drawsnewid Iago yn roc ac yn ei anfon ar eu hôl a'u hail-gipio.
Mae Aladdin yn gwawdio Jafar am fod yn ail mewn grym i'r Genie, gan ei annog i ddefnyddio ei ddymuniad olaf i ddod yn "y bod mwyaf pwerus yn y bydysawd", ac mae'r Genie yn trawsnewid Jafar yn genie hyd yn oed yn fwy pwerus. Ond mae hyn yn golygu fod Jafar nawr yn gaeth i lamp, ac mae'r Genie yn ei ddiarddel i Ogof y Rhyfeddodau. Mae Aladdin yn cadw ei addewid ac yn defnyddio ei ddymuniad olaf i ryddhau'r Genie, sy'n caniatáu iddo fyw fel bod dynol. Mae'r Swltan yn coroni Jasmine yn Swltan ac nid yw'n rhwym bellach i briodi tywysog. Mae hi ac Aladdin yn priodi, mae'r Genie yn priodi Dalia ac maen nhw'n cychwyn teulu ac yn teithio'r byd gyda'i gilydd.
Cast
[golygu | golygu cod]- Will Smith fel Genie / Llongwr:
Jinn digrif ecsentrig a charedig sydd â'r pŵer i roi tri dymuniad i bwy bynnag sydd â'i lamp hud. Mae Smith yn portreadu'r cymeriad yn gorfforol pan mae ar ffurf bod ddynol, tra bod ei ffurf genie glas anferthol yn CGI, sy'n cael ei bortreadu trwy berfformiad cipio-symudiadau.[3][4] - Mena Massoud fel Aladdin:
Lleidr tlawd ond caredig o Agrabah, a chrwt stryd sydd mewn cariad â'r Dywysoges Jasmine. - Naomi Scott fel y Dywysoges Jasmine:
Merch y Swltan a thywysoges gref Agrabah sydd am gael dweud ei dweud am sut mae hi'n byw ei bywyd. - Marwan Kenzari fel Jafar:
Dewin twyllodrus, llawn egni a Phrif Fisir Agrabah. Mae'n teimlo'n rhwystredig gyda modd y Swltan o reoli, ac yn dyfeisio cynllwyn i'w ddymchwel fel rheolwr Agrabah trwy ganfod lamp y Genie. - Navid Negahban fel Y Swltan:
Rheolwr doeth ac urddasol Agrabah sy'n awyddus i ddod o hyd i ŵr galluog i'w ferch Jasmine. - Nasim Pedrad fel Dalia:
Llawforwyn a ffrind ffyddlon i Jasmine. Dalia yw'r unig gymeriad newydd o'r brif gast. - Billy Magnussen fel y Tywysog Anders:
Cymeriad newydd i'r fersiwn hon o'r ffilm, gŵr posib i Jasmine o deyrnas Skånland.[5] - Numan Acar fel Hakim:
Pennaeth gwarchodwyr y palas sy'n deyrngar i'r Swltan, oherwydd gweithiodd ei dad i'r Swltan fel gwas palas. - Nina Wadia fel Zulla:
Masnachwraig yn y farchnad. Mae Wadia yn disgrifio ei hymddangosiad fel "mwy o gameo" gan fod angen golygfeydd ychwanegol ar ôl i'r ffilmio gorffen.[6] - Alan Tudyk fel llais Iago:
Macaw sgarlad sardonig a deallus, a ffrind i Jafar.[7] - Mae Frank Welker yn adfywio'r cymeriadau canlynol o'r ffilmiau blaenorol:
Dadleuon
[golygu | golygu cod]Gwnaeth y penderfyniad i gastio Scott, sydd â thad o Loegr a mam Gwjarati Wganda-Indiaidd, i chwarae rhan y Dywysoges Jasmine, cael lot o feirniadaeth a chyhuddiadau o liwiaeth, gan fod rhai sylwebyddion yn disgwyl i'r rôl fynd i actores o darddiad Arabaidd neu'r Dwyrain Canol.[11] Ym mis Rhagfyr 2018, dywedodd Julie Ann Crommett, Is-lywydd Amlddiwylliant Disney, fod y penderfyniad i gastio Scott fel Jasmine yn adlewyrchu'r cymysgu a'r gysylltu o wahanol ddiwylliannau yn y rhanbarth eang sy'n cynnwys y Dwyrain Canol, De Asia a China, i gyd y maent yn ffurfio'r Ffordd Sidan.[12] Dywedodd y bwriedir i Agrabah fod yn ganolbwynt i'r Ffordd Sidan, ac ychwanegodd y byddai mam Jasmine yn dod o wlad arall nid Agrabah.
Gwnaeth y penderfyniad i gastio Magnussen fel cymeriad gwyn newydd, a oedd yn wreiddiol i'r ffilm, cael lot o feirniadaeth hefyd. Roedd barn ei bod yn "ddiangen" ac yn "sarhaus", gan gyhuddo'r ffilm o wyngalchu.[13][14][15]
Ym mis Ionawr 2018, adroddwyd bod actorion cefndir gwyn wedi bod yn gwisgo colur brown yn ystod y ffilmio er mwyn blendio i mewn. Achosodd hwn gynnwrf a chondemniad, gan frandio'r arfer fel "sarhad ar y diwydiant cyfan" wrth gyhuddo'r cynhyrchwyr o beidio â recriwtio pobl â threftadaeth y Dwyrain Canol neu Ogledd Affrica. Ymatebodd Disney i'r ddadl gan ddweud, "Roedd amrywiaeth ein cast a pherfformwyr chefndir yn ofyniad a dim ond mewn llond llaw o achosion pan oedd yn fater o sgiliau arbenigol, diogelwch a rheolaeth (rigiau effeithiau arbennig, perfformwyr styntiau a thrin anifeiliaid) oedd criw yn gwisgo'r colur.[16][17]
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Gwnaeth Alan Menken cyfansoddi sgôr y ffilm, ar ôl gwneud hynny ar gyfer y ffilm animeiddiedig wreiddiol. Ysgrifennodd Pasek & Paul gân newydd gyda Menken, ac mae sawl cân o'r ffilm wreiddiol gan Menken, Howard Ashman, a Tim Rice yn dod nôl yn y fersiwn newydd. Roedd "Speechless", cân wreiddiol newydd a ysgrifennwyd ar gyfer Jasmine, ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, ond yn y pen draw ni chafodd ei henwebu.[18][19]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Aladdin Press Kit" (PDF). wdsmediafile.com. Walt Disney Studios. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar May 27, 2019. Cyrchwyd May 22, 2019.
- ↑ Brian Welk (May 22, 2019). "'Aladdin' Remake Rubs Critics Differently, From 'Rip-Roaring Spectacle' to 'Cinematic Karaoke'". TheWrap. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 22, 2019. Cyrchwyd May 22, 2019.
- ↑ Sinha-Roy, Piya (December 19, 2018). "See exclusive first-look photos from Disney's live-action Aladdin". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 19, 2018. Cyrchwyd December 19, 2018.
- ↑ Sinha-Roy, Piya (December 21, 2018). "Exclusive: Guy Ritchie on finding his blue Genie and crafting a new Aladdin". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 26, 2018. Cyrchwyd December 26, 2018.
- ↑ McHenry, Jackson (September 21, 2018). "Maniac's Billy Magnussen on Playing a 'Colorful Douchebag'". Vulture. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 23, 2018. Cyrchwyd September 24, 2018.
- ↑ [1] Former EastEnders star Nina Wadia reflects on filming her role in Disney's live-action Aladdin
- ↑ Parker, Ryan (March 12, 2019). "'Aladdin': Alan Tudyk to Voice Iago (Exclusive)". The Hollywood Reporter. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 13, 2019. Cyrchwyd March 12, 2019.
- ↑ Simpson, George (October 12, 2018). "Aladdin TRAILER: Did you spot the returning ORIGINAL film star?". Express. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 13, 2018. Cyrchwyd October 13, 2018.
- ↑ Schedeen, Jesse (October 12, 2018). "Aladdin: How the New Teaser Trailer Recreates the Animated Disney Movie". IGN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 12, 2018. Cyrchwyd October 13, 2018.
- ↑ Sippell, Margeaux (February 10, 2019). "New 'Aladdin' Trailer Reveals First Look at Will Smith's Blue Genie". Variety. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 25, 2019. Cyrchwyd March 23, 2019.
- ↑ "Was Disney Wrong To Cast Naomi Scott As Jasmine in the New 'Aladdin' Film? Here's Why People Are Angry". July 17, 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 7, 2017. Cyrchwyd September 7, 2017.
- ↑ "How Disney handled the casting and cultural authenticity of live-action Aladdin". Entertainment Weekly. December 21, 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 22, 2018. Cyrchwyd December 22, 2018.
- ↑ Flint, Hanna (September 7, 2017). "Aladdin: putting a white character in Disney's live-action remake is offensive". Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 7, 2017. Cyrchwyd September 7, 2017.
- ↑ Izadi, Elahe (September 7, 2017). "Disney just added a new character to 'Aladdin', and not everyone is pleased". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 7, 2017. Cyrchwyd September 7, 2017.
- ↑ "Disney criticized over casting white actor in live-action 'Aladdin'". September 6, 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 7, 2017. Cyrchwyd September 7, 2017.
- ↑ "Aladdin: Disney defends 'making up' white actors to 'blend in' during crowd scenes". BBC News. January 7, 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 11, 2018. Cyrchwyd January 12, 2018.
- ↑ "Disney accused of 'browning up' white actors for various Asian roles in Aladdin". The Independent. January 7, 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 14, 2018. Cyrchwyd January 14, 2018.
- ↑ "OSCARS 2020 SHORTLIST: MUSIC (ORIGINAL SONG)". December 17, 2019. Cyrchwyd February 17, 2019.
- ↑ "Oscar Nominations 2020: The Complete List". February 9, 2020. Cyrchwyd February 17, 2019.