Alice Stone Blackwell
Alice Stone Blackwell | |
---|---|
Ganwyd | 14 Medi 1857 New Jersey, City of Orange |
Bu farw | 15 Mawrth 1950 Cambridge |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, bardd, cofiannydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, llenor, swffragét |
Tad | Henry Browne Blackwell |
Mam | Lucy Stone |
Ffeminist a swffragét sosialaidd Americanaidd oedd Alice Stone Blackwell (14 Medi 1857 - 15 Mawrth 1950) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, bardd, cofiannydd, ac awdur yn ogystal ag am ei gwaith dros hawliau menywod a hawliau dynol.[1][1]
Fe'i ganed yn New Jersey ar 14 Medi 1857; bu farw'n ddall yn Cambridge, Massachusetts yn 92 oed. [2][3][4][5][6]
Magwraeth a choleg
[golygu | golygu cod]Cafodd Blackwell ei geni yn East Orange, New Jersey i Henry Browne Blackwell a Lucy Stone; roedd y ddau ohonynt yn arweinwyr yn y mudiad dros etholfraint (yr hawl i fenywod bleidleisio) ac ymhlith y rhai a sefydlodd Cymdeithas Etholfraint Menywod America (American Woman Suffrage Association; AWSA). Roedd Alice Blackwell yn i nith Elizabeth Blackwell, meddyg benywaidd cyntaf America.[7]
Cyflwynodd ei mam Susan B Anthony i fudiad hawliau menywod America, a'i mam hefyd oedd y fenyw gyntaf i ennill gradd prifysgol yn Massachusetts, y cyntaf i gadw ei henw ar ôl priodi, a'r cyntaf i siarad am hawliau menywod yn llawn amser.[8]
Addysgwyd Alice Stone Blackwell yn Ysgol Ramadeg Harris yn Dorchester, Ysgol Chauncy yn Boston a'r Abbot Academy yn Andover. Ym Mhrifysgol Boston University, hi oedd llywydd ei dosbarth, a graddiodd yno yn 1881, yn 24 oed.[9]
Gwaith
[golygu | golygu cod]Ar ôl graddio o Brifysgol Boston, dechreuodd Alice weithio i Woman's Journal, papur a ddechreuwyd gan ei rhieni. Erbyn 1884, roedd ei henw hi ochr yn ochr â'i rhieni fel perchnogion y papur. Ar ôl marwolaeth ei mam yn 1893, cymerodd Alice y cyfrifoldeb llwyr am ei olygu.[10]
Ym 1890, helpodd i gymodi dwy gymdeithas, gan eu huno: Cymdeithas Merched Menywod America (the American Woman Suffrage Association) a'r Gymdeithas Genedlaethol Etholfraint y Menywod (National Woman Suffrage Association), dau sefydliad a oedd yn cystadlu am aelodau. Bedyddiwyd y corff newydd yn "Gymdeithas Genedlaethol Menywod America" (National American Woman Suffrage Association; NAWSA). Asgwrn y gynnen rhwng y ddau fudiad, cyn hynny, oedd: y graddau y dylai etholfraint merched gael ei chlymu i etholfraint dynion Affro-Americanaidd.
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Gymdeithas Phi Beta Kappa am rai blynyddoedd.[11]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Growing Up in Boston's Gilded Age: The Journal of Alice Stone Blackwell, 1872–1874
- Lucy Stone: Pioneer of Woman's Rights (cyhoeddwyd 1930, ailgyhoeddwyd 1971)
- Some Spanish-American Poets cyfieithwyd gan Alice Stone Blackwell (cyhoeddwyd 1929 gan D. Appleton & Co.)
- Armenian Poems translated by Alice Stone Blackwell (cyfrol 1., 1896; ail gyfrol., 1917). OCLC 4561287.
- Songs of Russia (1906)
- Songs of Grief and Joy (1908)
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Blackwell, Alice Stone, 1857–1950. Papers in the Woman's Rights Collection, 1885–1950". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-15. Cyrchwyd 2011-08-16. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Disgrifiwyd yn: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Alice_Stone_Blackwell. https://www.bartleby.com/library/bios/index2.html.
- ↑ Rhyw: Anhysbys; Frances Willard (1893), Frances Willard; Mary Livermore, eds. (yn en), A Woman of the Century (1st ed.), Buffalo: Charles Wells Moulton, LCCN ltf96008160, OL13503115M, Wikidata Q24205103 Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Mehefin 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Alice Stone Blackwell". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Stone Blackwell". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Alice_Stone_Blackwell.
- ↑ Dyddiad marw: "Alice Stone Blackwell". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Stone Blackwell". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Alice_Stone_Blackwell.
- ↑ "Blackwell, Alice Stone 1857–1950". The Cambridge guide to women's writing in English. Cambridge, United Kingdom: Cambridge University Press. 1999.
- ↑ "Alice Stone Blackwell – Biography". www.armenianhouse.org. Cyrchwyd 2015-11-18.
- ↑ "Dorchester Atheneum". www.dorchesteratheneum.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-07. Cyrchwyd 2016-11-06.
- ↑ "American National Biography Online". www.anb.org. Cyrchwyd 2015-11-06.
- ↑ "Education & Resources - National Women's History Museum - NWHM". www.nwhm.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-16. Cyrchwyd 2016-11-06.