Amets Arzallus
Amets Arzallus | |
---|---|
Darlun o Amets Arzallus gan Maitane Azurmendi | |
Llais | Ametsarzallus.ogg |
Ganwyd | Amets Arzallus Antia 9 Tachwedd 1983 Hendaia |
Dinasyddiaeth | Gwlad y Basg |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bertsolari, newyddiadurwr, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr ffilm, llenor |
Adnabyddus am | Miñan |
Tad | Jexux Arzallus |
Perthnasau | Juan Mari Arzallus Egiguren |
Gwobr/au | Gwobr Arian Euskadi |
Mae Amets Arzallus[1] Antia (ganed 9 Tachwedd 1983) yn bertsolari, newyddiadurwr ac athro bertsolaritza. Enillodd y Bertsolari Txapelketa Nagusia, prif gystadleuaeth bertso Gwlad y Basg yn 2013, a daeth yn ail i Maialen Lujanbio yn 2022 ac yn 2009[2].
Bywyd
[golygu | golygu cod]Yn fab i'r bertsolari adnabyddus Jexux Arzallus ac Antia Miren, ac yn frawd i'r bertsolaris Itsaso Arzallus a Maddalen Arzallus, ganed ef yn Donibane Lohizune, ond symudodd y teulu i Hendaia pan oedd o'n fach. Wedi'i ddylanwadu gan ei dad a'i deulu, dechreuodd barddoni yn ifanc, yn ogystal â chwaraeon (mae'n hoffi pêl-droed a pilota).[3] Wedi astudio yn ysgolion Hendaia a Kanbo ac ysgol uwchradd Baiona, astudiodd newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Gwlad y Basg. Mae'n cydweithio â chylchgrawn Argia ac Euskadi Irrati, a hefyd yn gweithio yn yr ysgol bertso yn Hendaia.[4][5]
Yn 2016, pan oedd Donostia yn brifddinas diwylliant Ewropeaidd, Amets oedd prif gymeriad rhaglen ddogfen fel rhan o brosiect "Europa Transit", oedd yn canolbwyntio ar ddinasoedd sydd wedi profi gwrthdaro. Roedd o mewn cysylltiad â cherddorion a beirdd a wnaeth ffoi o Gyprus.[6]
Bertsolaritza
[golygu | golygu cod]Ymddangosodd gyntaf fel bertsolari yn Beasain, ym Mhencampwriaeth Ryng-Ysgol Gipuzkoa 1992. [5] Yno roedd ei ffrind Sustrai Colina a'i chwaer Itasoa yn gwmni iddo. Cafodd ganlyniadau gwych mewn twrnameintiau rhwng ysgolion.
Ers hynny mae wedi bod ar y lefel uchaf. Roedd yn bencampwr ym mhencampwriaeth Nafarroa yn 2000. Yn 2005, cyrhaeddodd rowndiau terfynol Prif Bencampwriaeth Cantorion Gwlad y Basg; Daeth yn ail ym Mhencampwriaeth Bertsolari 2009, [4] ar ôl Maialen Lujanbio; ac yn 2013, bu'n bencampwr. Enillodd hefyd gystadleuaeth y Xilaba Bertsulari Xapelketa yn Ngogledd Gwlad y Basg yn 2008, 2010 a 2012.
Llwyddiannau
[golygu | golygu cod]Twrnameintiau
[golygu | golygu cod]- Bertsolari Txapelketa Nagusia (Prif Bencampwriaeth Bertso):
- Pencampwr (1): 2013
- Ail (2): 2009 a 2022
- Rowndiau Terfynol (5): 2005, 2009, 2013, 2017, 2022
- Nafarroako Bertsolari Txapelketa (Pencampwriaeth Bertso Nafarroa) (4): 2000, 2001, 2002, 2003
- Xilaba Bertsulari Txapelketa (Cystadleuaeth Bertso Xilaba):
- Pencampwr (4): 2008, 2010, 2012, 2021
- Ail (1): 2016
- Euskal Herriko Eskolarteko Txapelketa (Pencampwriaeth Rhwng Ysgolion Gwlad y Basg) (2):
- 1997 (Uwchradd)
- 1996 (Cynradd)
Gwobrau
[golygu | golygu cod]- Zarauzko Kopla Txapelketa (Pencampwriaeth Kopla Zarautz) (1): 2010
Llyfrau
[golygu | golygu cod]Cronicl teithio
[golygu | golygu cod]- Illimani: Boliviako izpiak eta hizkiak (2006, Argia liburuak).
Nofel
[golygu | golygu cod]- Miñan (2019, Susan ). Nofel a ysgrifennwyd gydag Ibrahima Balde, yn adrodd hanes ei daith o Giniii Ewrop. Enillodd y nofel hon a Wobr Zilarrezko Euskadi yn 2020.[7]
Gwaith fel newyddiadurwr
[golygu | golygu cod]Newyddiadurwr yw Antia Amets Arzallus wrth ei alwedigaeth. Yn 2017, fe gyfwelodd â'i dad Jexux Arzallus. Cyhoeddwyd y cyfweliad hwn yn Ataria Tolosaldeko[8] ac fe'i cynhaliwyd ym man geni ei dad, fferm Goiazko Arre. Bu'n rhaid i'w dad ffoi o Sbaen i Ogledd Gwlad y Basg yn y 1970au.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Abizena Arzallus idaztea, euskal herritar horren aukera pertsonala da. Izan ere, Euskaltzaindiak, euskara baturako, Artzallus onartu du deitura horren grafiatzat. Ikus Euskal Onomastikaren Datutegia.
- ↑ "Bertsolari Txapelketa Nagusia 2013" (yn eu), www.bertsozale.eus, https://www.bertsozale.eus/eu/bertsolari-txapelketa-nagusia-2013
- ↑ "Amets ARZALLUS — Euskal kultur erakundea" (yn eu), www.eke.eus, https://www.eke.eus/eu/kultura/bertsularitza/ipar-euskal-herriko-bertsularitza/bertsulariak/antologia/amets_arzallus
- ↑ 4.0 4.1 Elkartea, Xenpelar Dokumentazio Zentroa-Bertsozale, "Amets Arzallus - Biografiak - BDB. Bertsolaritzaren datu-basea" (yn eu), bdb.bertsozale.eus, https://bdb.bertsozale.eus/web/haitzondo/view/364-amets-arzallus
- ↑ 5.0 5.1 "Arzallus Antia, Amets - Auñamendi Eusko Entziklopedia" (yn eu), aunamendi.eusko-ikaskuntza.eus, http://aunamendi.eusko-ikaskuntza.eus/eu/arzallus-antia-amets/ar-21352/
- ↑ "Amets Arzallus protagoniza el documental del viaje de Europa Transit a Chipre" (Noticias de Gipuzkoa).
- ↑ SL, TAI GABE DIGITALA (2020-11-18), "Amets Arzallus, Ibrahima Balde eta Eshkol Nevok jasoko dituzte Zilarrezko Euskadi Sariak" (yn eu), naiz:, https://www.naiz.eus/eu/info/noticia/20201118/amets-arzallus-eta-ibrahima-balderen-minan-ek-eta-eshkol-nevoren-tres-pisos-ek-jasoko-dituzte-zilarrezko-euskadi-sariak
- ↑ "«Dena da hizkuntza, dena da politika, dena da bertsoa, dena da konpromisoa...» - Bidania-goiatz" (yn eu), Tolosaldeko ataria, https://ataria.eus/bidania-goiatz/1484312413854-dena-da-hizkuntza-dena-da-politika-dena-da-bertsoa-dena-da-konpromisoa