Amoreg
Enghraifft o'r canlynol | iaith farw, tafodiaith |
---|---|
Math | Ieithoedd Canaanaidd |
Iaith ddiflanedig sy'n perthyn i'r grŵp o ieithoedd 'Cananeaidd' yw'r Amoreg[1], iaith yr Amoniaid a oedd yn arfer byw yn Nheyrnas Ammon, sydd bellach yng Ngwlad Iorddonen. Yn ei thro, mae'r grŵp Cananeaidd ('Cananeg'?) yn perthyn i deulu o ieithoedd a elwir yn Ieithoedd Semitaidd, fel y mae Aramaeg a Moabeg. Fe'i disgrifiwyd gyntaf fel iaith ar wahân yn 1970 gan yr Eidalwr, Giovanni Garbini, ond ôl Glottolog, gan gyfeirio at Huehnergard a Rubin (2011), nid yw'r Amoreg yn iaith wahanol, ar wahân i'r Hebraeg.[2]
Ychydig o enwau pobl a oroesodd y canrifoedd, ond mae'n cynnwys Nahash a Hanun, o'r Beibl. Mae'r grŵp Cananeaidd yn perthyn yn agos i Hebraeg a Moabeg. Dylanwadwyd ar yr Amoreg gan yr Aramaeg, gan gynnwys defnyddio "bd", yn hytrach na'r "śh" Hebraeg Beiblaidd ar gyfer "gwaith". Yr unig wahaniaeth nodedig arall rhyngddi â Hebraeg Beiblaidd yw iddi gadw'n achlysurol yr enw unigol, benywaidd -t (e.e., ’šħt "siswrn", ond ‘lyh "haint (ben.)".)
Dim ond pytiau byrion o'u hiaith sydd wedi goroesi, yn bennaf o'r 9g CC, e.e. Ysgrifiad Caer Ddinesig Amman neu Potel Tell Siran ac ychydig o grochenwaith 'ostraca'.
Testun
[golygu | golygu cod]Testun | [… מ]לכם . בנה . לך . מבאת . סבבת] [… ] [ … ] . ככל . מסבב . עלך . מת . ימתן [… ] כחד . אכחד[ ] וכל . מערב [… ] ובכל . סדרת . ילנן . צדק[ם … ] [… ] ל . תדלת . בטן כרה [ … ] [ … ]ה תשתע . בבן . אלם [ … ]ושלוה ונ[ … ] [… ]שלם לה וש[ … ] |
Trawsysgrifiad | […m]lkm.bnh.lk.mb’t.sbbt[…] […]kkl.msbb.‘lk.mt.ymtn[…] […]kḥd.’kḥd.wkl.m‘br[…] […]wbkl.sdrt.ylnn.ṣdqm[…] […]l.tdlt.bṭn.krh[…] […][…]h.tšt‘.bbn.’lm[…] […]wšlwh.wn[…] […]šlm.lh.wš[…] |
Cyfieithiad (William Fulco, 1978)[3] | […Mi]lkom, sydd wedi adeiladu i ti fynedfa i'r caeadle[…] […]fel y bo i'r rhai sy'n dy herio di, farw[…] […]Yn sicr, mi wnaf ddifa, pawb sy'n dod fewn[…] […]a rhwng y colofnau y cyfiawn a gaiff fyw[…] […] ac yno caiff addurn grogi o bob drws[…] […]a gynigir o fewn ei bortico[…] […]a diogelwch[…] […]heddwch i ti, hedd[wch…] |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi arlein)
- ↑ Amman Citadel Inscription
- ↑ http://www.kchanson.com/ANCDOCS/westsem/citadel.html#Ful
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Cohen, D (ed) (1988). "Les Langues Chamito-semitiques". Les langues dans le monde ancien et moderne, part 3. Paris: CNRS.CS1 maint: extra text: authors list (link)
- Aufrecht, WE (1989). A Corpus of Ammonite Inscriptions. Lewiston: E. Mellen Press. ISBN 0-88946-089-2.CS1 maint: ref=harv (link)
- Ahituv, Shmuel (1995). "Reviewed Works: A Corpus of Ammonite Inscriptions by Walter E. Aufrecht; Ancient Hebrew Inscriptions, Corpus and Concordance by G.I. Davies". Israel Exploration Journal (Israel Exploration Society) 45 (1): 73-75. JSTOR 27926371. https://archive.org/details/sim_israel-exploration-journal_1995_45_1/page/73.