Angharad Mair
Angharad Mair | |
---|---|
Ganwyd | Angharad Mair Davies 30 Mawrth 1961 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | rhedwr marathon, newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, gweithredwr mewn busnes |
Cyflogwr | |
Plant | Tanwen Cray |
Chwaraeon |
Cyflwynydd teledu Cymreig, colofnydd, cyn-athletwraig ac un o gyfarwyddwyr Tinopolis ydy Angharad Mair (ganed 30 Mawrth 1961)[1].
Ei bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Angharad yng Nghaerfyrddin. Astudiodd yng Ngholeg Normal, Bangor.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi gadael y coleg, daeth yn un o gyflwynwyr y rhaglen deledu i blant Bilidowcar pan ail-lansiwyd y rhaglen ar S4C ar 2 Tachwedd 1992. Gadawodd yn 1987 pan ymunodd â thîm newyddion y BBC[3]. Yn 1990 dechreuodd weithio i gwmni teledu Agenda, yn cyflwyno'r rhaglen deledu cylchgrawn Heno ar S4C. Bu hefyd yn cyflwyno ar Prynhawn Da, Wedi 3 a Wedi 7. Hi yw golygydd cyfres Heno.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn 30 mlwydd oed cyn iddi ddechrau rhedeg ac yn 1997, cystadlodd ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd yn Athens. Rhoddodd y gorau i redeg ers ei phedwardegau.[1] Mae'n briod â Jonathan Cray, sy'n gweithio fel dyn camera i Tinopolis ac mae dwy ferch ganddynt. Bu'r teulu yn byw am rai blynyddoedd yn Llanbedr-y-fro ym Mro Morgannwg.[4] Yn 2020 symudodd i'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.[5]
Yn 2010 fe'i derbyniwyd i'r orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd.[6]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Proffil Angharad Mair yn Tinopolis Archifwyd 2012-11-27 yn y Peiriant Wayback
- Wedi 3 & 7: Cyflwynwyr: Angharad Mair Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Cyfweliad Angharad Mair. Dewi Llwyd ar fore Sul. BBC. Adalwyd ar 26 Chwefror 2014.
- ↑ Cyflwynydd yn crwydro i gyrraedd copa cyfarwydd. , Daily Post, 16 Mawrth 2002. Cyrchwyd ar 1 Tachwedd 2022.
- ↑ Yr Orsedd yn cyhoeddi urddau'r de ddwyrain. Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 26 Chwefror 2014.
- ↑ Angharad Mair. aren.co.uk.
- ↑ Adre: Angharad Mair. S4C (28 Rhagfyr 2020).
- ↑ "Anrhydeddau 2010 – Gorsedd Cymru". 2016-07-21. Cyrchwyd 2023-08-07.