Awdurdod Cyllid Cymru
Dyfed Alsop, Prif Weithredwr | |
Gorolwg Adran llywodraeth anweinidogol | |
---|---|
Ffurfiwyd | 1 Hydref 2017 |
Awdurdodaeth | Cymru |
Gweithwyr | 80 (2022) |
Gweinidog cyfrifol |
|
Swyddogion Adran llywodraeth anweinidogol |
|
Dogfen allweddol |
|
Gwefan | llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru |
Corff cyhoeddus yw Awdurdod Cyllid Cymru (Saesneg: Welsh Revenue Authority), sy'n gyfrifol am gasglu trethi datganoledig Cymru. Sefydlwyd y pwerau ar gyfer creu trefniant i gasglu trethi datganoledig yn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. [1]
Mae gan y corff swyddfeydd ym Mhar Busnes Rhydycar (Merthyr Tufdul) ac adeilad Parc Cathays 2 (Caerdydd).[2] Cafodd aelodau bwrdd yr awdurdod eu penodi yn Haf 2017 a cyfarfu'r awdurdod am y tro cyntaf ar 18 Hydref 2017.[3] Daeth yr awdurdod yn gwbl weithredol yn Ebrill 2018, ac o'r dyddiad hwn roedd Cymru'n casglu peth o'i threthi am y tro cyntaf ers 800 mlynedd. Mae'r corff yn gyfrifol am gasglu Treth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a threth incwm (Cyfradd Treth Incwm Cymru (CTIC)) ers 2019.
Penodwyd Kathryn Bishop yn gadeirydd gyntaf yr awdurdod ar 20 Chwefror 2017 yn dilyn pleidlais gan Bwyllgor y Cynulliad, y tro cyntaf i wrandawiad gael ei gynnal cyn penodiad Gweinidogol.[4] Penodwyd Dyfed Edwards, cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd, fel is-gadeirydd yn Medi 2018.[5]
Cyfrifoldebau
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â chasglu trethi, mae'r Awdurdod yn gwneud y canlynol:
- darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch y trethi i’r trethdalwyr
- datrys cwynion ac anghydfodau
- hyrwyddo cydymffurfiaeth â’r trethi
- lleihau achosion o efadu ac osgoi trethi
- cefnogi datblygiad polisi Llywodraeth Cymru ar drethi
Trethi datganoledig
[golygu | golygu cod]Mae Deddfau Cymru 2014 a 2017 yn datganoli y trethi canlynol i'r Cynulliad Cenedlaethol:[6]
- Ardrethi Annomestig (trethi busnes) - o 1 Ebrill 2015
- Treth Trafodiadau Tir - o 1 Ebrill 2018
- Treth Tirlenwi - o 1 Ebrill 2018
- Treth Incwm (rhannol) - o 1 Ebrill 2019
Y ddeddfwriaeth perthnasol sy'n llywodraeth Awdurdod Cyllid Cymru a trethi Cymru yw:
- Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (2016)
- Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017
- Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Awdurdod Cyllid Cymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2 Chwefror 2017). Adalwyd ar 14 Chwefror 2017.
- ↑ Llywodraeth yn 'anwybyddu'r gogledd', medd AC .
- ↑ Trethi newydd – Awdurdod yn cwrdd am y tro cyntaf , Golwg360, 18 Hydref 2017. Cyrchwyd ar 19 Hydref 2017.
- ↑ Penodi Cadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru , Golwg360, 20 Chwefror 2017. Cyrchwyd ar 21 Chwefror 2017.
- ↑ Penodi Dyfed Edwards yn is-gadeirydd corff trethi Cymru , BBC Cymru Fyw, 12 Medi 2018.
- ↑ "Trysorlys Cymru a diwygio cyllidol". Llywodraeth Cymru. 2 Chwefror 2017. Cyrchwyd 7 Ionawr 2018.