Bab al Mandab
Gwedd
Math | culfor |
---|---|
Cysylltir gyda | Gwlff Aden, Y Môr Coch |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Iemen, Jibwti, Eritrea |
Cyfesurynnau | 12.5833°N 43.3333°E |
Culfor sy'n gorwedd rhwng Iemen yn Arabia (gorllewin Asia) a Jibwti yng Nghorn Affrica (gogledd-ddwyrain Affrica), gan wahanu'r ddau gyfandir hwnnw, yw Bab al Mandab, neu Bab el-Mandeb (hefyd Bab al Mandib neu Bab al Mandeb), sy'n golygu "Porth Dagrau" yn yr iaith Arabeg (باب المندب). Mae'n cysylltu'r Môr Coch a Gwlff Aden yng Nghefnfor India. Cyfeirir ato weithiau fel Culfor Mandab hefyd.
Daw'r enw Arabeg o'r ffaith fod peryglon yn ymwneud â morio yn y culfor ac o'r chwedl Arabaidd am ddaeargryn fawr yno a foddodd filoedd gan gwahanu Affrica ac Asia. Mae Bab al Mandab yn ddolen strategol bwysig iawn ar y llwybr morwol sy'n cysylltu'r Môr Canoldir a Chefnfor India trwy'r Môr Goch a Chamlas Suez.