Bachymbyd
Gwedd
Math | plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Bachymbyd Estate |
Lleoliad | Llanynys |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 69.2 metr |
Cyfesurynnau | 53.1391°N 3.35771°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Plasdy Cymreig a phentrefan ym mhlwyf Llanynys, ger Rhuthun, Sir Ddinbych yw Bachymbyd (amrywiad: Bachynbyd). Roedd yn un o dai Salbriaid Llewenni ac yn ganolfan nawdd bwysig i'r beirdd Cymraeg, yn enwedig yn yr 16g.
Sefydlwyd Bachymbyd gan Pyrs Salbri drwy ei briodas ag aeres Hywel ap Rhys o'r Rug, ger Corwen.
Un o'r beirdd a noddid gan Salbriaid Bachymbyd oedd y clerwr Robin Clidro. Erys ar glawr cerdd o ddiolch ganddo i Robert Salbri (bu farw 1551). Dyma ddarn ohono:
- Mi a euthum i Fachymbyd at y gŵr gore
- Llei bo bendith y byd yn ei neuadde,
- A merch arglwydd Llŷn yn rhoi aur a gwledde,
- A gwin ac arian, a byd o'r gore.
- A lloned y plas o wŷr da eu campe,
- A llawenydd y byd oedd y gwylie.
- Mi a fûm yno flwyddyn yn iro 'y nghrimoge
- Heb wneuthur gwaith na gorchwyl ond cysgu y bore,
- Fo ddoeth y meistr Robert ac a roes imi lifre,
- Arglwydd Bachymbyd, y penna' o'r plase.[1]
Roedd yr anterliwtwr a bardd Twm o'r Nant yn ennill bywoliaeth fel cariwr coed ym Machymbyd a'r cylch hyd tua 1769.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dyfynnir yn: Enid Rowlands (gol.), Gwaith Siôn Tudur, 2 gyfrol (Caerdydd, 1980), cyfrol 2, tud. 518.