Bathodyn Brenhinol Cymru
Gwedd
Bathodyn Brenhinol Cymru | |
---|---|
Manylion | |
Mabwysiadwyd | 2008 |
Arwyddair | Pleidiol Wyf i'm Gwlad |
Bathodyn Brenhinol Cymru yw'r bathodyn neu arfbais sy'n ymddangos ar deddfau Senedd Cymru.
Deddf cyntaf
[golygu | golygu cod]O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, cafodd Senedd Cymru (Cynulliad ar y pryd) bwerau i wneud deddfwriaeth mewn rhai meysydd heb ganiatâd gan San Steffan.
Cafodd Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG ei gymeradwyo a'i gwneud yn haws ac yn gyflymach i hawlio iawndal ar ôl triniaeth esgeulus gan GIG Cymru. Hwn oedd y mesur cyntaf, neu gyfraith Cymru, i gwblhau'r broses.[1]
Arfbais
[golygu | golygu cod]Ers hyn, fe wnaeth deddfwriaeth gynnwys arfbais Cymru, neu Fathodyn Brenhinol Cymru, am y tro cyntaf yn 2008. Mae’n seiliedig ar arfbeisiau tywysogion brodorol Cymru, yn dyddio’n ôl i’r 13g, wedi’i dylunio gan y "Garter King of Arms", Peter Gwynne-Jones.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "First Welsh law's royal approval" (yn Saesneg). 2008-07-09. Cyrchwyd 2024-05-24.