Bernard o Menthon
Bernard o Menthon | |
---|---|
Ganwyd | 1020 Unknown |
Bu farw | 12 Mehefin 1081, 15 Mehefin 1081 San Lorenzo fuori le Mura |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig |
Dydd gŵyl | 15 Mehefin |
Sant Cristnogol Ffrengig oedd Sant Bernard o Menthon (923 - 1008). Mae'n debyg iddo gael ei eni yn y Château de Menthon ger Annecy, i delu cefnog. Roedd ei dad wedi trefnu priodas iddo, ond gadawodd y chateau y diwrnod cyn ei briodas i ffoi i'r Eidal ac ymuno ag Urdd Sant Bened.
Urddwyd ef yn offeiriad, a daeth yn Archddiacon Aosta yn 966. Bu'n pregethu a gweithio yn ardal yr Alpau a Lombardi am flynyddoedd lawer. Bu'n gyfrifol am adeiladu ysbytai (hospitium) i gynorthwyo teithwyr ar hyd dau o fylchau enwog yr Alpau, ac o ganlyniad, enwyd y bylchau hyn ar ei ôl: Bwlch Sant Bernard Mawr a Bwlch Sant Bernard Bach. Daeth y cŵn a gedwid gan y canoniaid yn yr ysbyty ar Fwlch Sant Bernard Mawr i'w galw'n Gŵn Sant Bernard.
Bu farw yn Novara yn yr Eidal. Cyhoeddwyd ef yn sant gan y Pab Innocentius XI yn 1681; mae ei ddydd gŵyl ar 28 Mai.