Biwrocratiaeth
Gwedd
"Y Baich Gweinyddol": mae gwaith papur gormodol (neu dâp coch) yn un o ystrydebau biwrocratiaeth. | |
Enghraifft o'r canlynol | system wleidyddol |
---|---|
Math | tripartite classification of authority, gweinyddiaeth gyhoeddus |
Y gwrthwyneb | adhocracy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
System lywodraethol, yn enwedig un lle gwneir penderfyniadau gan swyddogion y wladwriaeth yn hytrach na chynrychiolwyr etholedig, yw biwrocratiaeth.[1] Y gwasanaeth sifil yw'r fiwrocratiaeth mewn llywodraeth genedlaethol. Mae diffiniad ehangach o'r gair yn crybwyll y strwythur sy'n gweithredu mewn unrhyw sefydliad, gan gynnwys sefydliadau preifat megis corfforaethau, gyda phwyslais ar reolau a rheoliadau, rhaniad llafur, parhauster, rheolaeth broffesiynol, hierarchaeth a chadwyn awdurdod, ac awdurdod cyfreithiol.[2] Defnyddir y gair hefyd yn ddilornus i ddisgrifio trefn weinyddol eithafol o gymhleth.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 biwrocratiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2014.
- ↑ (Saesneg) bureaucracy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2014.