Bobby Atherton
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Robert Atherton | ||
Dyddiad geni | 29 Gorffennaf 1876 | ||
Man geni | Bethesda, Cymru | ||
Dyddiad marw | 19 Hydref 1917 | (41 oed)||
Safle | Canol Cae/Ymosodwr | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1897 | Heart of Midlothian | ||
1897–1903 | Hibernian | 75 | (25) |
1903–1905 | Middlesbrough | 60 | (13) |
1905 | Chelsea | 0 | (0) |
Tîm Cenedlaethol | |||
1899-1905 | Cymru | 9 | (2) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd Robert 'Bobby' Atherton (29 Gorffennaf 1876 – 19 Hydref 1917). Llwyddodd i ennill 9 cap dros Gymru rhwng 1899 a 1905 ac roedd yn gapten ar dîm Hibernian pan enillon nhw Gwpan FA Yr Alban ym 1902.
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Hibernian
[golygu | golygu cod]Er cael ei eni ym Methesda, gogledd Cymru, cafodd Atherton ei fagu yn Yr Alban.[1] Ar ôl cyfnod gyda tîm ieuenctid Dalry Primrose a chyfnod byr gyda Hearts, ymunodd Atherton gyda Hibs ar ddechrau tymor 1897–98.[1].
Roedd Atherton yn gapten ar dîm Hibs gipiodd Cwpan yr Alban ym 1902, y tro diwethaf i Hibs godi'r tlws ac roedd hefyd yn gapten ar y tîm enillodd Bencampwriaeth yr Alban ym 1902-03, y tro cyntaf yn hanes y clwb.[1][2]
Middlesbrough
[golygu | golygu cod]Symudodd Atherton i Middlesbrough ym 1903 lle chwaraeodd 66 o gemau a dod yn gapten ar y clwb dros gyfnod o dri thymor.[3] Symudodd i Chelsea ym 1905 ond ar ôl cyfnod byr yn Llundain cyhoeddodd ei ymddeoliad o bêl-droed.
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Llwuddodd Atherton i ennill 9 cap a sgorio dwy gôl dros [[ Gymru rhwng 1899 a 1905. Daeth ei ddwy gôl yn erbyn Yr Alban ym 1904 ac yn ei gêm olaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon ym 1905.[4][5]
Atherton oedd y chwaraewr cyntaf yn hanes Hibs i ennill cap rhyngwladol i unrhyw wlad heb law am Yr Alban pan enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Iwerddon yn Belfast ym 1899 ac roedd hefyd y chwaraewr cyntaf yn hanes clwb Middlesbrough i ennill cap rhyngwladol dros unrhyw wlad.[1]
Rhyfel Byd Cyntaf
[golygu | golygu cod]Ar ôl ymddeol o bêl-droed symudodd Atherton yn ôl i Gaeredin gan ddechrau gweithio fel stiward yn y Llynges Fasnachol. Tybir iddo fod yn farw pan gafodd y llong roedd yn hwylio arni, y Brittania, ei suddo gan Uboat Almaeneg ym 1917.[1][6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Bobby Atherton". Hibs Historical Trust. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ Pia, Simon. "Edinburgh's real disgrace? Hibs have not won the cup since Buffalo Bill was in town". Scotland on Sunday.
- ↑ "Boro honour their real heroes". Gazette. 2008-11-08. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Scotland 1-1 Wales". EU Football Info. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Ireland 2-2 Wales". EU Football Info. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Ships hit during WWI: Britannia". uboat.net. Unknown parameter
|published=
ignored (help)