Bomio dyngarol
Enghraifft o'r canlynol | hoax |
---|
Ymadrodd sy'n cyfeirio at Ymgyrch Grym Cynghreiriol, ymgyrch fomio gan NATO yn erbyn Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia o 24 Mawrth i 10 Mehefin 1999 yn ystod Rhyfel Cosofo, yw bomio dyngarol. Defnyddir gan wrthwynebwyr yr ymgyrch fel gwrtheiriad eironig wrth ymateb i amcan ddatganedig NATO i amddiffyn Albaniaid Cosofo, ac yn hwyrach defnyddiwyd i feirniadu ymyraethau milwrol eraill sy'n pwysleisio cymhellion i ddiogelu hawliau dynol. Term agos yw rhyfel dyngarol.
Priodolir yr ymadrodd yn aml i Václav Havel,[1] Arlywydd y Weriniaeth Tsiec ar y pryd, oedd yn gefnogwr brwd o ymyrraeth yng Nghosofo ac yn feirniadu llywodraeth Slobodan Milošević yn llym. Ym mis Mai 2004 gwadodd Havel yn gryf ei gyswllt â'r ymadrodd, gan fynd mor bell ag i gyhuddo'r ymgeisydd ASE Richard Falbr o ddweud celwydd ar ôl i Falbr feirniadu Havel am fathu'r term: "Wrth gwrs nid yn unig nad fi a wnaeth ddyfeisio'r term aneglur "bomio dyngarol", ond yn ogystal ni wnes i ei ddefnyddio a ni ellir i ei ddefnyddio, gan fy mod gen i - mi fentra' - chwaeth dda."[2]
Yn gyffredinol (megis yn ymateb Falbr), cyfeirir at gyfweliad Havel â'r papur newydd Ffrangeg Le Monde a gyhoeddwyd ar 29 Ebrill 1999[3] pan ddefnyddiodd y ddau air o'r ymadrodd ar wahân, ond mewn cyswllt â'i gilydd:
- Ffrangeg: Dans l'intervention de l'OTAN au Kosovo, je pense qu'il y a un élément que nul ne peut contester: les raids, les bombes, ne sont pas provoqués par un intérêt matériel. Leur caractère est exclusivement humanitaire: ce qui est en jeu ici, ce sont les principes, les droits de l'homme auxquels est accordée une priorité qui passe même avant la souveraineté des Etats. Voilà ce qui rend légitime d'attaquer la Fédération yougoslave, même sans le mandat des Nations unies.
- Saesneg: I believe that during intervention of NATO in Kosovo there is an element nobody can question: the air attacks, the bombs, are not caused by a material interest. Their character is exclusively humanitarian: What is at stake here are the principles, human rights which are accorded priority that surpasses even state sovereignty. This makes attacking the Yugoslav Federation legitimate, even without the United Nations mandate.
- Tsieceg: Domnívám se, že během zásahu NATO na Kosovu existuje jeden činitel, o kterém nikdo nemůže pochybovat: nálety, bomby, nejsou vyvolány hmotným zájmem. Jejich povaha je výlučně humanitární:[4] to, co je zde ve hře, jsou principy, lidská práva, jimž je dána taková priorita, která překračuje i státní suverenitu. A to poskytuje útoku na Jugoslávskou federaci legitimitu i bez mandátu Spojených národů.
- Cymraeg: Credaf yn ystod ymyrraeth NATO yng Nghosofo ceir elfen ni ellir neb ei chwestiynu: ni achosir y cyrchoedd awyr, y bomiau, gan ddiddordeb materol. Dyngarol yn unig yw eu cymeriad: yr hyn sydd yn y fantol yw'r egwyddorion, hawliau dynol y rhoddir iddynt flaenoriaeth sydd yn trechu sofraniaeth wladwriaethol hyd yn oed. Mae hyn yn gwneud ymosod ar Ffederasiwn Iwgoslafia yn gyfreithlon, hyd yn oed heb fandad y Cenhedloedd Unedig.
Yn fuan defnyddiwyd yr ymadroddion "bomio dyngarol" a "rhyfel dyngarol" yn aml yn y cyfryngau. Beirniadwyd y termau gan wrthwynebwyr y rhyfel fel propaganda rhyfel[5][6] neu ddefnyddiwyd hwy mewn ffordd eironig. Mewn ystyr eironig defnyddir y termau i ddisgrifio ymgyrchoedd milwrol dilynol hefyd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Ffrangeg) Nous sommes tous des Jimmy Carter, 2002.
- ↑ Václav Havel, K Falbrově lži, Mladá fronta DNES 24 Mai 2004: Obskurní pojem "humanitární bombardování" jsem samozřejmě nejen nevymyslel, ale nikdy ani nepoužil a použít nemohl, neboť mám – troufám si tvrdit – vkus.
- ↑ (Ffrangeg) Moi aussi je me sens albanais (archif tâl, ond ceir y paragraff perthnasol fel darn am ddim).
- ↑ Dyma'r cyfieithiad Tsieceg byr a ddefnyddir gan Falbr a ddyfynnir yn aml ar-lein. Defnyddiwyd geiriau eraill mewn cyfieithiadau mewn cyfryngau Tsieceg ar y pryd megis "výhradně" neu "humanitní".
- ↑ (Saesneg) Kosovo and doublespeak, 1999.
- ↑ (Saesneg) CNN interview with Vojislav Koštunica, 2000.