Cadwaladr Roberts
Cadwaladr Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mehefin 1854 Tanygrisiau |
Bu farw | 14 Mehefin 1915 |
Galwedigaeth | cerddor |
Roedd Cadwaladr Roberts (Pencerdd Moelwyn) (5 Mehefin 1854 – 14 Mehefin 1915) yn gerddor o Gymru a sefydlodd ac a fu'n arwain y côr enwog o fro Ffestiniog Côr Meibion y Moelwyn.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd y Pencerdd Moelwyn yn Nhŷ Capel Bethsaida, Tanygrisiau, yr hynaf o bump o blant Robert Roberts, chwarelwr, a Jane (née Griffith) ei wraig. Blwyddyn ar ôl ei eni symudodd y teulu i fferm yr Aelgoch, ar odra'r Moelwyn. Bu farw tad y Pencerdd trwy ddamwain yn y chwarel pan oedd ei fab yn 10 mlwydd oed. Oherwydd yr angen iddo ef, fel y mab hynaf, gynorthwyo ei fam weddw i redeg y fferm ni chafodd gyfle i dderbyn addysg ffurfiol ac eithrio'r hyn a gafodd yn yr ysgol Sul.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn gynnar iawn dechreuodd Roberts weithio yn y chwarel, ond cafodd ddamwain wrth ei waith a achosodd niwed difrifol i'w goes. Roedd meddyg Ffestiniog ar y pryd Dr Robert Roberts (Isallt) yn hanu o hen deulu o feddygon esgyrn ac wedi dod yn arbenigwr mewn trin damweiniau diwydiannol.[3] Llwyddodd Isallt i achub coes y bachgen, ond bu'n gloff am weddill oes.[4]
Gyrfa gerddorol
[golygu | golygu cod]Roedd y teulu Roberts yn aelodau o gapel Annibynnol Carmel, Tanygrisiau. Yn 18 mlwydd oed ymunodd Cadwaladr Roberts â chôr y capel. Dysgodd elfennau cerddoriaeth gan arweinydd y côr a chodwr canu'r capel John W. Jones. Bu'n ddisgybl gwiw i'r arweinydd, a phan benderfynodd Jones ymfudo i'r Wladfa ym 1874 awgrymodd y byddai Roberts yn olynydd teilwng iddo. Ymroddodd i'r gwaith yn egnïol a chafodd lwyddiant gyda'r canu cynulleidfaol o'r cychwyn. Er mwyn gwella ei alluoedd fel arweinydd a chodwr canu bu'n ddarllenwr brwd o lyfrau am egwyddorion cerddoriaeth.[5]
Bu côr Tanygrisiau yn cystadlu yn rheolaidd yn eisteddfodau lluosog ardal Ffestiniog yr adeg honno, ond colli oedd ei hanes bob tro. Penderfynodd yr arweinydd ail-ffurfio ei gôr drwy orfodi pob aelod gael clyweliad. Cwtogodd aelodaeth y côr o dros gant i ddim ond y 40 efo'r lleisiau gorau. Achosodd hyn lawer o ddrwgdeimlad yn ei erbyn ond profodd iddo wneud y peth iawn pan enillodd y côr y wobr gyntaf mewn tair cystadleuaeth yn Eisteddfod Flynyddol yr Annibynwyr ychydig wedi hynny. O hynny allan bu llwyddiant i'r côr ar y maes cystadleuol. Ymunodd eraill â'r côr er mwyn cyfranogi yn ei fri er nad oeddynt yn aelodau gyda'r Annibynwyr. Ffurfiodd Roberts Undeb Corawl Blaenau Ffestiniog oedd yn cynnwys, yn y pendraw, 150 o aelodau, pob un wedi pasio prawf lleisiol a phob un yn gallu dilyn y tonic sol-ffa. Ym 1882 cafodd yr Undeb Corawl ei buddugoliaeth gyntaf y tu allan i ardal Ffestiniog pan lwyddodd i gipio'r wobr gyntaf mewn eisteddfod daleithiol ym Mae Colwyn. Cystadlidd y côr yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl ym 1884 pherfformiodd yn y Palas Grisial yn Llundain ym 1892.[6]
Ym 1891 ffurfiodd Roberts gôr meibion o'r enw The Moelwyn Mael Voice Singers,[7] i ganu yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Ffestiniog. Daeth y Singers yn Gôr Meibion y Moelwyn, sydd yn parhau hyd heddiw i fod yn un o gorau meibion mwyaf amlwg y gogledd. Yn ystod cyfnod Pencerdd Moelwyn daeth y côr yn gydradd gyntaf efo Côr Meibion Porth yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1896 [8] Canodd y côr yng ngŵyl gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898 [9] ac mewn cyngerdd i groesawu prif weinidogion y trefedigaethau Prydeinig i gyfarfod yng Nghastell Gwydir Llanrwst.[10] Yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog urddwyd Roberts yn Bencerdd ac yn aelod o'r Orsedd gyda'r enw Pencerdd Moelwyn. Ym 1907 canodd côr ar y Llong Frenhinol yng Nghaergybi er diddanwch y brenin Siôr V.[11] Bu hefyd ar daith gyda'r côr i'r Unol Daleithiau a Chanada.
Yn ogystal â'i waith gyda'r capel a'r corau gwasanaethodd Pencerdd Moelwyn ar Fwrdd Gwarcheidwaid Ffestiniog [12] ar Fwrdd Lleol Ffestiniog [13] ac fe'i penodwyd yn Ynad Heddwch ar fainc Llys Ffestiniog.
Teulu
[golygu | golygu cod]Ym 1885 priododd Pencerdd Moelwyn â Maria Williams, athrawes yn Ysgol Tanygrisiau.[14] Bu iddynt bump o blant ond dim ond un ohonynt gwnaeth byw i ddod yn oedolyn. Bu Mrs Roberts marw ym 1896 [15]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Pencerdd Moelwyn o'r diciâu yn ei gartref Bodlondeb, Tanygrisiau yn 61 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llan Ffestiniog [16].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Llafar Bro – 24 Awst 2016 -Bwrw Golwg - Cadwaladr Roberts adalwyd 22 Tachwedd 2020
- ↑ "Y DIWEDDAR CADWALADR ROBERTS YH PENCERDD MOELWYN BLAENAU FFESTINIOG - Y Drych". Mather Jones. 1915-07-15. Cyrchwyd 2020-11-22.
- ↑ "MARWOLAETH ISALLT - Yr Herald Cymraeg". Daniel Rees. 1914-09-15. Cyrchwyd 2020-11-22.
- ↑ "MR CADWALADR ROBERTS TANYGRISIAU FFESTINIOG - Papur Pawb". Daniel Rees. 1897-07-31. Cyrchwyd 2020-11-22.
- ↑ Y Cerddor, Cyf. VIII rhif. 86 - Chwefror 1 1896 Tud 14. EIN CERDDORION. (RHIF 2.) Mr CADWALADR ROBERTS, Tanygrisiau adalwyd 22 Tachwedd 2020
- ↑ Llechi Cymru. Diwylliant - Cerddoriaeth adalwyd 22 Tachwedd 2020
- ↑ "THE FESTINIOG EISTEDDFOD - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1891-08-28. Cyrchwyd 2020-11-22.
- ↑ Bye-gones July 1896. National Eisteddfod adalwyd 22 Tachwedd 2020
- ↑ "PROCLAMATION OF THE 1898 EISTEDDFOD - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1897-07-09. Cyrchwyd 2020-11-22.
- ↑ "THE COLONIAL PREMIERS AT LLANRWST - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1897-07-16. Cyrchwyd 2020-11-22.
- ↑ "YR YMWELIAD BRENHINOL - Yr Herald Cymraeg". Daniel Rees. 1907-07-09. Cyrchwyd 2020-11-22.
- ↑ "FFESTINIOG - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1879-04-03. Cyrchwyd 2020-11-22.
- ↑ "FFESTINIOG A'I HELYNTION - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1884-05-28. Cyrchwyd 2020-11-22.
- ↑ "Family Notices - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1885-04-10. Cyrchwyd 2020-11-22.
- ↑ "Ffestiniog - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1896-05-14. Cyrchwyd 2020-11-22.
- ↑ "ER COF - Y Dydd". William Hughes. 1915-06-18. Cyrchwyd 2020-11-22.