Caleb Morris
Caleb Morris | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1800 Tre-groes |
Bu farw | 26 Gorffennaf 1865 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Roedd Caleb Morris (12 Awst 1800 - 26 Gorffennaf 1865) yn weinidog gyda'r Annibynwyr.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Morris yn y Parcyd yn yr Eglwyswen, Sir Benfro yn blentyn i Stephen Morris, crydd, a Mary ei wraig. Roedd y teulu yn eithaf cysurus eu byd, a gyda'r olwg o'i weld yn mynd yn dwrnai rhoddwyd iddo addysg cymharol dda. Cafodd ei addysg mewn ysgol yn Aberteifi ac ysgol ramadeg Hwlffordd.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi derbyn tröedigaeth efengylaidd pan oedd tua 14 mlwydd oed ymunodd Morris a'r Annibynwyr ym Mhen y Groes, Sir Benfro, a dechreuodd bregethu yn weddol fuan wedi ei dderbyn yn aelod. Wedi cyfnod o gyd weithio gyda'i dad fel crydd dychwelodd i addysg gan ddod yn efrydydd yn athrofa ragbaratoawl i ddarpar weinidogion Caerfyrddin o 1819 hyd 1822. Wedi ymadael a'r athrofa derbyniodd alwad i fod yn weinidog y Tabernacl, Arberth, lle cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth ar 2 Ebrill, 1823.[3] Bu'n weinidog yn Arberth am bedair blynedd. Ym 1827 symudodd i Lundain i fod yn weinidog cynorthwyol i'r Parch George Burder [4] yn Eglwys yr Annibynwyr Saesneg yn Fetter Lane, Llundain. Roedd Burder yn un o weinidogion mwyaf ei enwad ar y pryd. Pum mlynedd ar ôl i Morris dod yn ddirprwy iddo bu farw Burder ym 1832 a syrthiodd holl bwysau ei weinidogaeth ar Morris a oedd, o hyd, yn ŵr ifanc a gweddol ddibrofiad.
Er iddo ddod yn olynydd teilwng i'w rhagflaenydd, gyda chynulliadau mawr yn dod i wrando arno yn y capel a galwadau lluosog fel pregethwr gwadd trwy Brydain penbaladr bu'r pwysau yn ormod i'w iechyd meddwl a chorfforol. Aeth yn ôl i Sir Benfro i geisio adfer ei iechyd ym 1835 am gyfnod o chwe mis cyn rho'r gorau i'w weinidogaeth yn Llundain ym 1849.
Bu'n weinidog ar Annibynwyr Capel Eccleston, Ecclestone Square yn Llundain[5] am gyfnod fer, cyn rhoi'r gorau i'r weinidogaeth yn llwyr tua 1850. Dychwelodd i Benfro lle fu'n cadw tyddyn am weddill ei oes.
Roedd yn gyfaill ac yn cydweithio'n agos a'r Parchedigion David Thomas [6] a Nun Morgan Harry,[7] dau weinidog Annibynnol Gymreig arall o Sir Benfro oedd hefyd yn gweithio yn Llundain.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yng Ngwbert, Ceredigion wedi mynd yno yn yr obaith byddai gwynt y môr yn adfer ei iechyd, yn 65 mlwydd oed.[8] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Pen y groes.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "MORRIS, CALEB (1800 - 1865), gweinidog Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-23.
- ↑ Tywysydd y Plant Cyf. II rhif. 1 - Ionawr 1872, Caleb Morris Llundain
- ↑ Y Dysgedydd Crefyddol Cyf. II rhif. 9 - Medi 1823, tud 281 - Urddiad.
- ↑ ODNB Burder, George
- ↑ Evans, David Tyssil (1902). The Life and Ministry of the Rev. Caleb Morris. Alexander and Shepheard. t. 300.
- ↑ Jones, R. (2004, September 23). Thomas, David (1813–1894), Congregational minister. Oxford Dictionary of National Biography. adalwyd 14 Medi 2019
- ↑ Owen, R. G., (1953). HARRY, NUN MORGAN (1800 - 1842), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 14 Medi 2019
- ↑ Y Diwygiwr, Medi 1865, PEIODASAU A MAEWOLAETHAU
- ↑ Y Dysgedydd Crefyddol, Medi 1865 MARWOLAETH CALEB MORRIS