Cassiopeia (cytser)
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | cytser |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cytser yn hemisffer y Gogledd yw Cassiopeia (Cymraeg: Llys Dôn). Mae'n gorwedd yng nghanol y Llwybr Llaethog bron, yn agos i Seren y Gogledd. Ei gymdogion yw Cepheus, Perseus ac Andromeda. Mae'n un o'r cytserau mwyaf disglair a hawdd i'w adnabod. Mae'r pum seren ddisgleiriaf yn ffurfio siâp 'W' yn yr awyr. Mae'n cynnwys gweddillion dau supernova diweddar, Seren Tycho a Cassiopeia A, sy'n ffynhonnell signalau radio gref.
Fe'i enwir ar ôl Cassiopeia, mam Andromeda a gwraig Cepheus brenin Ethiopia.