Cato yr Ieuengaf
Cato yr Ieuengaf | |
---|---|
Ganwyd | 95 CC Rhufain hynafol |
Bu farw | 46 CC, 12 Ebrill 46 CC o gwaediad Utica |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | llenor, gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig, gwleidydd |
Swydd | tribune of the plebs, quaestor, Praetor, moneyer |
Plaid Wleidyddol | optimates |
Tad | Marcus Porcius Cato |
Mam | Livia |
Priod | Atilia, Marcia |
Partner | Aemilia Lepida |
Plant | Porcia, Marcus Porcius Cato, Porcius Cato, Porcia, Porcia |
Perthnasau | Cato yr Hynaf, Marcus Porcius Cato Salonianus, Servilia |
Llinach | Porcii Catones |
Gwleidydd Rhufeinig oedd Marcus Porcius Cato Uticensis, a elwir yn Cato yr Ieuengaf (Lladin: Cato Minor), (95 CC - 46 CC. Roedd yn un o wrthwynebwyr amlycaf Iŵl Cesar.
Roedd Cato yn or-ŵyr i Cato yr Hynaf. Ganed ef yn Rhufain, a chollodd ei rieni yn ieuanc. Magwyd ef gan ei ewythr, Marcus Livius Drusus. Yn 72 CC, ymladdodd fel gwirfoddolwr yn y rhyfel yn erbyn Spartacus. Daeth yn Dribwn milwrol ym Macedonia yn 67 CC, am ymddengys iddo arwain lleng am gyfnod. Etholwyd ef i swydd Quaestor yn 65 CC. Dadleuodd yn y Senedd o blaid y gosb eithaf i ddilynwyr Catilina yn 63 CC.
Daeth yn ddylanwadol iawn yn y Senedd, ac yn arweinydd plaid yr Optimaten. Daeth i wrthdrawiad a Gnaeus Pompeius Magnus, ac yn fuan wedyn a Iŵl Cesar. Gwrthwynebodd gais Cesar yn 60 CC i gael ceisio am etholiad fel Conswl heb groesi'r ffin i ddinas Rhufain (y pomerium). Bu ganddo ran amlwg yn y rhyfel cartref a ddatblygodd yn Rhufain o dechrau 49 CC. Wedi buddugoliaeth Cesar, ffôdd Cato i Utica yng ngogledd Affrica, lle lladdodd ei hun yn hytrach nag ildio.