Cefn Gwlad
Cefn Gwlad | |
---|---|
DVD gan Gwmni Sain o'r gyfres deledu Cefn Gwlad (2007) | |
Genre | Ffeithiol |
Serennu | Dai Jones |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 30 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Rhaglen deledu ffeithiol yw Cefn Gwlad. Fe'i darlledwyd gyntaf ar HTV Cymru cyn ei symud i S4C yn 1982.
Cyflwynydd y rhaglen ers ei darlledu ar S4C oedd Dai Jones, Llanilar, a roddodd ei stamp ei hun arni. Ymddeolodd o waith teledu yn 2020 wedi salwch.[1]
Y cynhyrchydd gwreiddiol oedd Geraint Rees a oedd wedi cynhyrchu ffilmiau am hanesion a chymeriadau cefn gwlad ers y 1960au ar TWW ac yna HTV Cymru.
Bwriad y sioe yw dogfennu bywyd ffermio a chefn gwlad Cymru drwy ddilyn bywydau unigolyn neu deulu. Mae'r rhaglen yn nodedig am elfennau doniol sy'n deillio o bersonoliaeth Dai Jones. Fe ddatblygodd nifer o raglenni arbennig o'r brif raglen a oedd yn fwriadol ddoniol, er enghraifft yn dilyn Dai ar deithiau dramor.[2]. Efallai mai'r enwocaf o'r rhaglenni yma oedd Dai ar y Piste[3]. Datblygwyd hefyd nifer o is-gynnyrch ee fideos, DVD a llyfrau yn sgil y rhaglen.
Yn Chwefror 2018 cyhoeddwyd y byddai criw ifanc o gyflwynwyr yn ymuno â Dai ar gyfer cyfres newydd o'r rhaglen, sef Meleri Williams, Ioan Doyle, Mari Lovgreen, Rhys Lewis ac Elis Morris.[4]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cefn gwlad yn dathlu chwarter canrif ar faes y Sioe; adalwyd 22 Gorffennaf 2015
- ↑ "Cefn Gwlad Dramor". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-22. Cyrchwyd 2015-07-21.
- ↑ Cefn Gwlad: Dai ar y Piste
- ↑ Pobl ifanc sy'n cadw fflam Cefn Gwlad yn fyw. S4C (15 Chwefror 2018).