Cilfynydd
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.625°N 3.32°W |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Cilfynydd. Saif ar lan Afon Taf, tua milltir o dref Pontypridd, a 12 milltir i'r gogledd o ddinas Caerdydd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Beth Winter (Llafur).[1][2]
Hanes y pentref
[golygu | golygu cod]Safai'r pentref bach, amaethyddol, gwreiddiol ar hen ffordd porthmyn ac fe'i galwyd ar ôl fferm a safai ar ochr ddwyreiniol y dyffryn: "Fferm Cilfynydd" lle trigai teulu'r 'Llwydiaid'. Roedd ambell dyddyn yno hefyd, rhai wedi'u codi o ganlyniad i agor Camlas Morgannwg a lifai gerllaw. Yn ôl Cyfrifiad 1881, roedd union 100 o bobl yn byw yma; erbyn 1901 tyfodd y boblogaeth i 3,500.[3] Tyfodd y pentre'n gyflym, felly, wedi sefydlu Glofa'r Albion yn 1887.
Tanchwa Glofa'r Albion
[golygu | golygu cod]Bu damwain fawr yma ar 23 Mehefin 1894, pan ffrwydrodd y pwll, gan ladd 290 o weithwyr a 123 o geffylau. Hon oedd ail drychineb waethaf yn hanes Maes Glo De Cymru; dim ond trychineb Senghenydd yn 1913 oedd yn waeth.[4] Wedi ymchwiliad, daethpwyd i'r canlyniad mai ffrwydriad nwy achosodd y gyflafan, ond nid oedd tystiolaeth beth gynheuodd y ffrwydriad felly ni chyhuddwyd y perchnogion, yr Albion Steam Coal Company, o drosedd.
Roedd y pwll yn dal i gyflogi 991 o ddynion yn 1947, pan ddaeth dan oruchwyliaeth y Bwrdd Glo, ond caeodd yn 1966.
Pobl o Gilfynydd
[golygu | golygu cod]- Merlyn Rees, gwleidydd
- Stuart Burrows, tenor
- Syr Geraint Evans, baswr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Cilfynydd". rhondda-cynon-taff.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-18. Cyrchwyd 2009-03-14.
- ↑ Albion Colliery: The forgotten mining disaster; gwefan y BBC; adalwyd 3 Medi 2016.
Trefi
Aberdâr · Aberpennar · Glynrhedynog · Llantrisant · Pontypridd · Y Porth · Tonypandy · Treorci
Pentrefi
Aberaman · Abercwmboi · Abercynon · Aber-nant · Y Beddau · Blaenclydach · Blaencwm · Blaenllechau · Blaenrhondda · Brynna · Brynsadler · Cefn Rhigos · Cefnpennar · Cilfynydd · Coed-elái · Coed-y-cwm · Cwmaman · Cwm-bach · Cwm Clydach · Cwmdâr · Cwm-parc · Cwmpennar · Y Cymer · Dinas Rhondda · Y Ddraenen Wen · Efail Isaf · Fernhill · Ffynnon Taf · Y Gelli · Gilfach Goch · Glan-bad · Glyn-coch · Glyn-taf · Y Groes-faen · Hirwaun · Llanharan · Llanhari · Llanilltud Faerdref · Llanwynno · Llwydcoed · Llwynypïa · Y Maerdy · Meisgyn · Nantgarw · Penderyn · Pendyrus · Penrhiw-ceibr · Penrhiw-fer · Penrhys · Pentre · Pentre'r Eglwys · Pen-yr-englyn · Pen-y-graig · Pen-y-waun · Pont-y-clun · Pont-y-gwaith · Y Rhigos · Rhydyfelin · Ton Pentre · Ton-teg · Tonyrefail · Tonysguboriau · Trealaw · Trebanog · Trecynon · Trefforest · Trehafod · Treherbert · Trehopcyn · Trewiliam · Tynewydd · Wattstown · Ynys-hir · Ynysmaerdy · Ynys-y-bwl · Ystrad Rhondda