Cosworth
Math | menter |
---|---|
Math o fusnes | cwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau |
Diwydiant | diwydiant ceir |
Sefydlwyd | 1958 |
Sefydlydd | Keith Duckworth |
Pencadlys | Northampton |
Cynnyrch | Peiriant tanio mewnol |
Lle ffurfio | Llundain |
Gwefan | https://www.cosworth.com/ |
Cwmni cynhyrchu peiriannau modurol a sefydlwyd yn Llundain ym 1958 yw Cosworth, sy'n arbenigo mewn peiriannau hylosgi mewnol perfformiad uchel, powertrain, ac electroneg. Mae cynnyrch y cwmni ar gyfer ceir rasio yn bennaf, a diwydiannau modurol prif ffrwd i raddau llai. Lleolir y cwmni yn Northampton, Lloegr, ac mae ganddynt rai ffatrioedd yng Ngogledd America: yn Indianapolis a Mooresville, Gogledd Carolina.[1]
Hyd at 2018 mae Cosworth wedi casglu 176 o wobrau yn Fformiwla Un (F1) fel cyflenwr injan, ac felly'n ail - y tu ôl i Ferrari.[2]
Cyflenodd Cosworth ei beiriannau rasio dosbarth cyntaf olaf i un tîm yn F1 yn 2013, sef Tîm Marussia F1.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y cwmni fel gwneuthurwr periannau tanio mewnol yng ngwledydd Prydain yn 1958 gan Mike Costin a Keith Duckworth. Deilliodd enw'r cwmni 'Cosworth', fel portmanteau o gyfenwau dau sylfaenydd y cwmni: COStin a duckWORTH.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Welcome to Cosworth". Cosworth.com. Cosworth. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-25. Cyrchwyd 3 Gorffennaf 2017.
- ↑ "Ford Cosworth - Wins". www.statsf1.com. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2017.