Neidio i'r cynnwys

Cymdeithas Bêl-droed Slofacia

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Bêl-droed Slofacia
UEFA
[[File:|225px|Association crest]]
Sefydlwyd4 Tachwedd 1938
PencadlysBratislava
Aelod cywllt o FIFA1994
Aelod cywllt o UEFA1993
LlywyddJan Kovačík
Gwefanhttps://www.futbalsfz.sk

Cymdeithas Bêl-droed Slofacia (Slofaceg: Slovenský futbalový zväz, SFZ) yw corff llywodraethu pêl-droed yn Slofacia. Mae'r gymdeithas yn gyfrifol am reoli a datblygu pêl-droed yn Slofacia a dyma'r corff sy'n rhedeg timau pêl-droed cenedlaethol Slofacia, a thimau futsal.[1]

Cyn bencadlys SFZ yn Trnavská cesta 100, Bratislava

Sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Slofacia ar 4 Tachwedd 1938 a daeth yn aelod o FIFA yn wreiddiol ym 1939, ond daeth i ben ar ôl yr Ail Ryfel Byd oherwydd bod cystadlaethau pêl-droed Tsiec a Slofaceg yn cael eu cyfuno, ac felly hefyd y timau cenedlaethol. Ar ôl i Tsiecoslofacia chwalu, diwygiwyd y sefydliad, gan ymuno ag UEFA ym 1993, ac ailymunodd â FIFA ym 1994..[2]

Mae Cymdeithas Bêl-droed Slofacia yn rhedeg tîm pêl-droed cenedlaethol Slofacia, yn ogystal â thimau ieuenctid gwrywaidd ar lefel dan-21, dan-19, dan-18, dan-17, dan-16, a dan-15. Mae'r gymdeithas hefyd yn trefnu tîm pêl-droed cenedlaethol merched Slofacia a thîm futsal cenedlaethol Slofacia.[1]

Mae Slofacia wedi chwarae mewn tri thwrnamaint mawr ers chwalu Tsiecoslofacia: Cwpan y Byd FIFA 2010, Ewro 2016 UEFA (lle bu iddynt golli yn eu gêm gyntaf yn erbyn Cymru ac Ewro 2020 UEFA, gan gyrraedd y rownd o 16 yn y ddau. Cynrychiolwyd Slofacia hefyd yn nhwrnamaint pêl-droed Gemau Olympaidd yr Haf 2000, lle cawsant eu dileu yn y cam grŵp, yn dilyn ymddangosiad cyn-derfynol eu tîm dan 21 ym Mhencampwriaeth Dan-21 Ewropeaidd UEFA yn 2000, a gynhaliwyd gan Slofacia. Ni fyddent yn cymryd rhan yn y pencampwriaethau eto tan 2017.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "List of Slovak football national teams". Slovak Football Association (yn Slofaceg). Cyrchwyd 5 August 2023.
  2. "Developing football in Slovakia". UEFA. Cyrchwyd 5 August 2023.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Slofacia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato