Cymdeithas Ryng-Americanaidd dros Amddiffyn yr Amgylchedd
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1998 |
Pencadlys | San Francisco |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | San Francisco |
Gwefan | https://aida-americas.org |
Mae'r Cymdeithas Ryng-Americanaidd dros Amddiffyn yr Amgylchedd (Sbaeneg: Asociacion Interamericana para la Defensa del Ambiente) (AIDA) yn sefydliad cyfreithiol, amgylcheddol, ryngwladol dielw a sefydlwyd ym 1996 gan bum sefydliad amgylcheddol yn America gan gynnwys Earthjustice.
Mae pencadlys AIDA yn San Francisco, California ac mae'r sefydliad yn gweithio'n rhyngwladol gyda phartneriaid mewn llawer o wahanol wledydd gan gynnwys yr Ariannin, Canada, Chile, Colombia, Costa Rica, Ecwador, Mecsico, a Pheriw.
Mae AIDA yn gweithio'n bennaf i wella a diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd. Mae gwaith mwyaf nodedig AIDA wedi bod yn La Oroya, Periw, lle maent wedi brwydro yn erbyn gwenwyno pobl leol gyda metelau trwm ayb. Mae AIDA hefyd wedi gweithio'n galed i amddiffyn y crwban môr lledrgefn yn Costa Rica trwy bartneriaeth â Cedarena.[1]
Rhaglenni
[golygu | golygu cod]Mae AIDA yn partneru â grwpiau lleol i sefydlu timau rhyngwladol o gyfreithwyr a gwyddonwyr i fynd i'r afael ag amrywiaeth o argyfyngau amgylcheddol a hawliau dynol - gan gynnwys dirywiad adnoddau dŵr croyw, tocsinau cynyddol, newid hinsawdd, a dirywiad bioamrywiaeth bregus.
Partneriaid
[golygu | golygu cod]Mae AIDA'n gweithio ar brosiectau mewn cydweithrediad â grwpiau amgylcheddol a hawliau dynol, gan gynnwys y sefydliadau canlynol:
- Canolfan Cyfraith Amgylcheddol ac Adnoddau Naturiol (CEDARENA) Sbaeneg yn unig Archifwyd 2020-09-22 yn y Peiriant Wayback, Costa Rica
- Canolfan Hawliau Dynol a'r Amgylchedd (CEDHA)[dolen farw] , Ariannin
- Earthjustice, yr Unol Daleithiau
- ECOLEX Sbaeneg yn unig[dolen farw] , Ecwador
- Ecojustice, Canada
- Fiscalía del Medio Ambiente (FIMA) Sbaeneg yn unig, Chile
- Cyfiawnder dros Natur (JPN) Sbaeneg yn unig, Costa Rica
- Canolfan Cyfraith Amgylcheddol Mecsicanaidd (CEMDA), Mecsico
- Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol Periw (SPDA) Sbaeneg yn unig, Periw
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Turner, T. (2002). Justice on Earth. Chelsea Green Publishing Company. ISBN 1-931498-31-8