Neidio i'r cynnwys

Cymuned La Oroya v. Periw

Oddi ar Wicipedia
Cymuned La Oroya v. Periw
Enghraifft o'r canlynolachos gyfreithiol Edit this on Wikidata
GwladwriaethPeriw Edit this on Wikidata

Achos llys oedd Cymuned La Oroya v. Periw a oedd yn ymwneud â hawliau dynol cymuned La Oroya, yn nhalaith Yauli, Periw. Eisteddodd Llys Hawliau Dynol Rhyng-America i glywed achos trigolion La Oroya, Periw, yn erbyn eu gwlad, gan fynnu bod eu hawliau sylfaenol wedi'u torri ers degawdau oherwydd halogiad metalau trwm o waith mwyndoddi aur ac arian.[1] Cynheliwyd yr achos yn Montevideo, Wrwgwái ac enillodd y trigolion eu hachos.

Canfuwyd bod gan drigolion y pentref grynodiad brawychus o uchel o blwm yn eu gwaed a'u dŵr yfed, ac mae llawer yn cael trafferthion gyda'u hanadlu. Dangosodd astudiaeth ym 1999 (a gynhaliwyd ddwy flynedd ar ôl cychwyn y Doe Run) lefelau uchel o lygredd aer, gyda 85 gwaith yn fwy arsenig, 41 gwaith yn fwy o gadmiwm, a 13 gwaith yn fwy o blwm na'r symiau a ystyrir yn gyffredinol yn ddiogel.[2][3]

Mae pwysigrwydd La Oroya v. Perú yn ddeublyg: gallai sefydlu ymhellach y cysylltiad rhwng diraddio amgylcheddol a thorri hawliau dynol a gallai ddangos y gellir dal gwladwriaeth yn atebol am droseddau hawliau dynol a achosir gan halogiad amgylcheddol. Gallai'r achos gael effaith ddwys ar yr IAHRS, yn enwedig os yw'r Comisiwn a'r Llys yn dal y Wladwriaeth yn gyfrifol am y troseddau hawliau dynol a honnir gan y deisebwyr.

Yn nhermau cyfreithiol, dywedir i'r gymuned godi 'deiseb' (neu 'betisiwn') yn erbyn y Wladwriaeth, Periw.

Pan gafodd y ddeiseb ei ffeilio yn 2006, roedd La Oroya yn un o ddeg dinas mwyaf halogedig y byd. Yn ôl y deisebwyr (y gymuned), mae'r boblogaeth, yn enwedig plant a merched beichiog, wedi bod yn agored i lefelau uchel o blwm, arsenig, a chadmiwm oherwydd gweithgaredd mwyndoddwr Doe Run. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r lefelau hyn yn uwch na'r lefel uchaf a ganiateir gan Sefydliad Iechyd y Byd. Cynhaliwyd pedwar prawf gwaed, ym 1999, 2000, 2001, a 2005 i wirio poblogaeth lefelau plwm pobl La Oroya a dangosodd y canlyniadau fod y lefelau plwm yn uwch na'r safon a ganiateir ac yn uniongyrchol gysylltiedig â gweithgaredd y gwaith metal. Nododd y Wladwriaeth mewn adroddiad bod y lefelau hyn o halogi yn ganlyniad uniongyrchol i'r gwaith metal.[4]

Cymuned La Oroya

[golygu | golygu cod]

Mae pentref La Oroya, Periw wedi'i leoli ar uchder o 3,700 metr yn yr Andes Periw, 175km o Lima, ar hyd y briffordd ganolog ac Afon Mantaro yn Nhalaith Yauli. Mewn cymhariaeth, mae'r Wyddfa yn 1,085 metr. Amgylchynir y pentref gan fynyddoedd garw, sy'n gwneud yr ardal yn agored i dymheredd unigryw, gwrthdroedig, sy'n cadw'r llygredd-aer dros y ddinas. Mae 65% o boblogaeth Talaith Yauli yn byw o dan y llinell dlodi ac nid oes gan y rhan fwyaf o'r gymuned wasanaethau sylfaenol. Ceir tua 30,000 o drigolion yn La Oroya, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n gweithio yn y mwyndoddwr lleol.[5]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
  


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. aida-americas.org; adalwyd 16 Mai 2023.
  2. Hugh O'Shaughnessy in La Oroya, Peru (2007-08-12). "Poisoned city fights to save its children". London: Observer.guardian.co.uk. Cyrchwyd 2012-08-11.
  3. "Doe Run 10 K 2006". Sec.gov. Cyrchwyd 2012-08-11.
  4. corteidh.or.cr' adalwyd 17 Mai 2023.
  5. corteidh.or.cr' adalwyd 17 Mai 2023.