Damwain drên East Palestine, Ohio
Digwyddodd damwain drên East Palestine, Ohio ar 3 Chwefror 2023, wrth i drên nwyddau ar reilffordd Norfolk Southern gael ei bwrw oddi ar y cledrau wrth deithio drwy ddinas East Palestine yn nhalaith Ohio, Unol Daleithiau America.[1] Llosgodd y trên am ddeuddydd cyn i swyddogion y dalaith ofyn i weithwyr brys geisio llosgi sawl cerbyd dan reolaeth,[2] gan ollwng hydrogen clorid a ffosgen i'r awyr oherwydd presenoldeb cemegion peryglus roedd y trên yn eu cludo.[1] O ganlyniad, symudwyd yr holl drigolion o fewn radiws o filltir, a chychwynnwyd ar ymateb i'r argyfwng gan asiantaethau yn Ohio, Pennsylvania, a Gorllewin Virginia. Ar 16 Chwefror 2023 anfonwyd gweinyddwr o Asiantaeth Amddiffyn Amgylcheddol (EPA) y llywodraeth ffederal i gynorthwyo.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Ohio catastrophe is 'wake-up call' to dangers of deadly train derailments". The Guardian. February 11, 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 13, 2023. Cyrchwyd February 13, 2023.
- ↑ Orsagos, Patrick; Seewer, John (2023-02-06). "Crews release toxic chemicals from derailed tankers in Ohio". Associated Press (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 7, 2023. Cyrchwyd 2023-02-14.
- ↑ Murray, Isabella (2023-02-17). "Political fallout over federal response to Ohio train derailment". ABC News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 17, 2023. Cyrchwyd 2023-02-20.