Deddfau Falk
Enghraifft o'r canlynol | deddfwriaeth |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1872 |
Gwladwriaeth | Teyrnas Prwsia, Ymerodraeth yr Almaen |
Cyfres o fesurau deddfwriaethol a ddaeth i rym yn Nheyrnas Prwsia rhwng 1872 a 1879 oedd Deddfau Falk a gyflwynwyd gan y gweinidog Adalbert Falk yn ystod y Kulturkampf, cyfnod o wrthdaro rhwng llywodraeth Prwsia a'r Eglwys Gatholig. Pasiwyd y prif ddeddfau, a elwir Deddfau Mai (Almaeneg: Maigesetze), ym Mai 1873.[1]
Penodwyd Falk yn Weinidog dros Faterion Crefyddol, Addysgol a Meddygol yn Ionawr 1872, a fe'i cyfarwyddwyd gan Otto von Bismarck, Prif Weinidog Prwsia a Changhellor yr Almaen, i oruchwylio'r Kulturkampf ("brwydr ddiwylliannol") ac i "ailsefydlu hawliau'r wladwriaeth mewn perthynas â'r eglwys". Aeth Falk ati i lunio rhaglen ddeddfwriaethol i wanychu awdurdod a dylanwad yr Eglwys Gatholig ac i atgyfnerthu grym y wladwriaeth, gan gynnwys cyflwyno priodas wladol orfodol, tanseilio dylanwad y glerigiaeth ym myd addysg, a chwtogi ar hawliau Catholigion.
Ym 1878, cafwyd rhwyg rhwng Bismarck a'r Blaid Ryddfrydol Genedlaethol—y brif garfan a oedd yn gefnogol o'r Kulturkampf—a doedd Falk ddim yn gallu cynnal ei safle am amser hir. Gwellodd cysylltiadau rhwng yr Almaen a'r Babaeth, ac ym Medi 1879 ymddiswyddodd Falk.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Alison Kitson (2001). Germany, 1858-1990: Hope, Terror, and Revival (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Rhydychen. t. 34. ISBN 9780199134175.