Degwm
Degfed ran o rywbeth a gaiff ei dalu i sefydliad crefyddol neu fel treth orfodol i lywodraeth yw degwm.[1] Yn wreiddiol gwnaed y taliadau hyn mewn nwyddau megis cnydau, gwlân, llaeth neu dda byw ac fel arfer byddent yn cynrychioli'r ddegfed ran o gynnyrch blwyddyn o drin y tir neu fagu anifeiliaid. Ymhen amser, fodd bynnag, rhoddwyd taliadau arian yn lle taliadau mewn nwyddau.[2] Wedi i'r eglwys a'r wlad ymwahanu, defnyddir heddiw dreth yr eglwys yn lle'r degwm, sydd yn gysylltiedig i system drethi'r wlad er mwyn cynnal eu heglwys genedlaethol.
Mae cyfraith Iddewig yn cynnwys gwahanol ffurfiau o ddegymu ers yr henfyd. Mae Iddewon Uniongred fel arfer yn rhoi degfed ran o'u hincwm i elusen, o'r enw מעשר כספים ma'aser kesafim yn Hebraeg. Yn Israel heddiw, mae rhai Iddewon crefyddol yn dal i ddilyn yr hen gyfreithiau o ddegymau nwyddau amaethyddol. Mae llawer o enwadau Cristnogol yn credu bod Iesu yn dysgu y dylid talu degwm gyda gofal am "gyfiawnder a thrugaredd a ffyddlondeb" (gweler Mathew 23:23).[3][4][5] Mae degymu yn dal yn ymarfer pwysig i lawer o Gristnogion heddiw felly.
Ceir y cofnod ysgrifenedig cynharaf i'r gair Cymraeg degwm yn y 13eg ganrif yn Llyfr Du o'r Waun. Daw'r gair o'r Lladin, decuma (pars) "degfed (ran)".[6]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ David F. Burg (2004). A World History of Tax Rebellions. t. viii. ISBN 9780203500897.
- ↑ "Beth oedd y Degwm?", Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 5 Mawrth 2022
- ↑ Smith, Christian; Emerson, Michael O; Snell, Patricia (2008). Passing the Plate: Why American Christians Don't Give Away More Money. Oxford University Press. tt. 215–227. ISBN 9780199714117.
- ↑ Greg L. Bahnsen; Walter C. Kaiser, Jr.; Douglas J. Moo; Wayne G. Strickland; Willem A. VanGemeren (21 September 2010). Five Views on Law and Gospel. Zondervan. t. 354.
- ↑ Stanley E. Porter; Cynthia Long Westfall (Jan 2011). Empire in the New Testament. Wipf and Stock. t. 116.
- ↑ degwm. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 17 Mawrth 2021.