Edward Vaughan
Edward Vaughan | |
---|---|
Bu farw | Tachwedd 1522 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Roman Catholic bishop of Saint David’s |
Clerigwr oedd Edward Vaughan (bu farw Tachwedd 1522) a oedd yn Esgob Tyddewi rhwng 1509 a thua 1521.
Cafodd ei fagu yn y Deheubarth (Cymru) cyn mynd i Loegr i dderbyn addysg yng ngholeg Caergrawnt. Wedi graddio yno yn Ddoethur y Gyfraith, LL.D., fe'i penodwyd i wasanaethu yn eglwys Sant Mathew, Stryd Friday, Llundain ar 21 Mehefin 1487. Bu hefyd yn ficer Islington, prebendari Reculverland (1493), Harleston (1499), yn Eglwys Sant Paul ac yn drysorydd cadeiriol yn yr eglwys honno hefyd, prebendari Bromesbury.
Yn 1509 cafodd ei benodi'n archddiacon Lewes, ac o ganlyniad iddo dderbyn sél bendith y Pab ar Ionawr 13 o'r un flwyddyn, fe'i cysegrwyd yn Esgob Ty Ddewi. Fel rhan o'i alwedigaeth yn y swydd hon, cymerodd ran mewn cynlluniau pensaernïol gwych ar gyfer yr Eglwys Gadeiriol a phlasau'r esgob yn Llantyfai a Llawhaden. Gwasanaethodd yr esgobaeth hon hyd ddydd ei farw, Tachwedd 1522, ac fe'i claddwyd yn Nhy Ddewi o fewn Capel hardd y Drindod Sanctaidd a adeiladwyd ganddo.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Edward Vaughan. Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd ar 12 Chwefror 2016.