Neidio i'r cynnwys

Eilir Jones

Oddi ar Wicipedia
Eilir Jones
Enw bedyddEilir Jones
Geni (1963-07-26) 26 Gorffennaf 1963 (61 oed)
CyfrwngComedi stand-yp
CenedligrwyddCymro
Blynyddoedd gwaithc. 1986 - presennol
GenresComedi gwledig, dychan, iaith ymylol
Gweithiau nodedigFfarmwr Ffowc

Digrifwr, awdur a pherfformiwr o Gymru yw Eilir Jones (ganwyd 26 Gorffennaf 1963).[1] Fe'i magwyd ym Mlaenau Ffestiniog, yn Nhywyn, Gwynedd, y Drenewydd a Dinas Mawddwy; gweinidog ac awdur oedd ei dad. Mae'n adnabyddus am greu cymeriadau gwirion ar lwyfan, sgrin a radio, fel y "Ffarmwr Ffowc", cymeriad ffraeth a gwledig ei dafod.

Sgwennodd Eilir y gyfrol Dyddiadur Ffarmwr Ffowc a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa.[2] a Meddyliau Eilir hefyd gan Wasg y Lolfa[3] Sgwennodd "Un Fach Flewog", "Bwletîn" a "Torri Calon" ar gyfer Radio Cymru a rhaglenni comedi Bwletin a Naw Tan Naw ar gyfer S4C. Gyda Theatr Bara Caws, perfformiodd "Un Fach Flewog", "Caffi Basra" a "Dal i Bwmpio".[4]

Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Tywyn, Gwynedd ac yna yn Ysgol y Gader, Dolgellau cyn gweithio fel nyrs seicatryddol yn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych.

Yn 2013 roedd yn byw yn Llansannan ac roedd ganddo ddau o blant.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Trydariad Dewi Llwyd (25 Gorffennaf 2015).
  2. Gwefan Linkedin[dolen farw]; adalwyd 7 Hydref 2013.
  3. Gwasg y Lolfa Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback broliant marchnata'r llyfr Meddyliau Eilir (2013)
  4. Neges ganddo ar Trydar; 8 Hydref 2013

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]