Esthetiaeth
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, mudiad llenyddol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1870s |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mudiad celf yn ail hanner y 19g, yn bennaf yn Lloegr a'r Unol Daleithiau, oedd Esthetiaeth. Credo fachog y mudiad oedd "celfyddyd er mwyn celfyddyd", gwrthodiad plaen o'r syniad bod pwrpas cymdeithasol, moesol neu addysgol i gelf. Cafodd y mudiad ei alw'n aml yn "yr addoli ar y prydferth" (Saesneg: cult of the beautiful).
Yng nghanol y 19g, datblygodd athroniaethau yn Ewrop mewn adwaith i ddiwydiannu, defnyddiolaeth, a'r newidiadau cymdeithasol syfrdanol a fu ar doriad modernedd. Bellach, nid crefftwr angenrheidiol oedd yr arlunydd a noddid gan y frenhiniaeth a'r eglwys. Yn hytrach, dyn ar gyrion cymdeithas ydoedd a pheth y gellir ei hepgor oedd ei ddawn artistig. Honnwyd trefn o benderfyniaeth yn y byd gan athrawiaethau gwleidyddol a gwyddonol newydd, megis Marcsiaeth a Darwiniaeth, gan fygwth hunaniaeth a natur unigryw y crefftwr creadigol. Bu arlunwyr hefyd yn ofni cydymffurfio o ganlyniad i fasgynhyrchu, ac effeithiau'r gyfundrefn gyfalafol ar ddiwylliant.
Gellir olrhain gwreiddiau deallusol y mudiad i'r athronydd Immanuel Kant a ddadleuodd o blaid annibyniaeth safonau esthetaidd oddi ar foesoldeb, defnyddioldeb, a phleser. Ymhlith yr eraill i fynegi syniadau tebyg oedd Goethe a Ludwig Tieck yn yr Almaen, Samuel Taylor Coleridge, a Thomas Carlyle yn Lloegr, a Germaine de Staël, Théophile Gautier, a Victor Cousin yn Ffrainc. Ymddangosodd yr arluniaeth gynharaf yn yr arddull Esthetaidd yng nghelf y Cyn-Raffaëliaid yn Lloegr.[1]
Blodeuai'r mudiad yn Lloegr o'r 1860au i'r 1890au, ym mha le'r oedd yn gorgyffwrdd i raddau helaeth â Dirywiaeth, ac ymhlith ei brif ffigurau oedd Oscar Wilde, James McNeill Whistler, Walter Pater, Max Beerbohm, ac Aubrey Beardsley. Yno, yr oedd y mudiad yn adwaith neilltuol yn erbyn celf a dylunio Fictoraidd a gafodd ei hystyried yn oraeddfed ac yn ymhongar gan yr Esthetwyr. Dylanwadwyd ar Esthetiaeth yn gryf gan gelf Japan a Tsieina, ac roedd yn gysylltiedig â'r mudiad Celf a Chrefft, Symbolaeth, art nouveau, japonaiserie, ac adfywiad arddull y Frenhines Anne.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Aestheticism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.