Euryn cefnwyrdd
Euryn cefnwyrdd Oriolus sagittatus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Oriolidae |
Genws: | Oriolus[*] |
Rhywogaeth: | Oriolus sagittatus |
Enw deuenwol | |
Oriolus sagittatus |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Euryn cefnwyrdd (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: eurynnod cefnwyrdd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Oriolus sagittatus; yr enw Saesneg arno yw Olive-backed oriole. Mae'n perthyn i deulu'r Eurynnod (Lladin: Oriolidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn O. sagittatus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Awstralia.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r euryn cefnwyrdd yn perthyn i deulu'r Eurynnod (Lladin: Oriolidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Euryn | Oriolus oriolus | |
Euryn Saõ Tomé | Oriolus crassirostris | |
Euryn cefnfelyn Asia | Oriolus xanthonotus | |
Euryn gwarddu | Oriolus chinensis | |
Euryn melyn Awstralia | Oriolus flavocinctus | |
Euryn penddu Asia | Oriolus xanthornus | |
Pitohwi amryliw | Pitohui kirhocephalus | |
Pitohwi cribog | Pitohui cristatus | |
Pitohwi penddu | Pitohui dichrous |
Cynefin a dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Lle mae'r euryn melyn Awstralia yn arbenigo mewn cynefinoedd llaith, â llystyfiant trwchus yn y gogledd pell trofannol, mae'r euryn cefnwyrdd yn llai arbenigol, yn ffafrio amgylcheddau coetir mwy agored, ac yn goddef hinsoddau sychach (ond nid anialwch). Er eu bod yn gyffredin neu gyffredin iawn yn y gogledd, mae'r eurynnod hyn i'w gweld yn llai aml yn y de, ond serch hynny maent yn cyrraedd cyn belled â de-ddwyrain De Awstralia. Maent yn ymestyn o ogledd eithaf Gorllewin Awstralia ar draws arfordiroedd y dwyrain a'r de i Victoria a chornel De Awstralia. Mae'r rhan fwyaf o adar yn bridio yn ystod y tymor gwlyb trofannol, ond mae rhai yn mudo tua'r de i fridio.
Ymwelwyr yr haf yn ardal Canbera yn bennaf ond bydd ychydig yn ymdroi yno yn y gaeaf hefyd meddai'r naturiaethwr John Bundock[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.