Evelyn Wood
Evelyn Wood | |
---|---|
Ganwyd | 9 Chwefror 1838 Braintree, Cressing |
Bu farw | 2 Rhagfyr 1919 Harlow |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog milwrol, swyddog y fyddin, bargyfreithiwr |
Swydd | Constable of the Tower |
Tad | John Page Wood, 2nd Baronet |
Mam | Emma Caroline Wood |
Priod | Mary Paulina Anne Southwell |
Plant | Pauline Fanshawe, Marcella Caroline Mary Page, Victoria Eugénie Mary Wood, Evelyn FitzGerald Michell Wood, Charles Michell Aloysius Wood, Arthur Herbert Wood |
Gwobr/au | Croes Fictoria, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Grand Cross of the Imperial Order of Leopold, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Dosbarth 1af, Urdd y Medjidie, 5th class, Order of the Medjidie, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Cydymaith Urdd y Baddon, Chevalier de la Légion d'Honneur |
Swyddog yn y Fyddin Brydeinig oedd y Maeslywydd Syr Henry Evelyn Wood VC, GCB, GCMG (9 Chwefror 1838 – 2 Rhagfyr 1919).
Ymunodd â'r Llynges Frenhinol yn ei arddegau a gwasanaethodd yn Rhyfel y Crimea. Trosglwyddodd i'r marchfilwyr yn y Fyddin ac enillodd Groes Fictoria yn India. Roedd yn aelod o Gylch Ashanti, criw o hoff swyddogion Garnet Wolseley, a chafodd ei ddyrchafu trwy'r rhengoedd. Cymerodd ran yn Rhyfel y Zulu a Rhyfel Cyntaf y Boer yn Neheudir Affrica. Penodwyd yn Sirdar y Fyddin Eiffaidd yn y 1880au yn ystod Rhyfel y Mahdïwyr. Dychwelodd Wood i Brydain ym 1886 a gwasanaethodd fel Prif Swyddog Cyflenwi'r Swyddfa Rhyfel a hefyd Dirprwy Gadfridog. Cafodd ei benodi'n Faeslywydd ym 1903.
Roedd Wood yn gyfaill i'r Frenhines Victoria ac ystyriwyd yn symbol o rym milwrol yr Ymerodraeth Brydeinig. Cafodd ei chwaer, Katharine O'Shea, berthynas â'r cenedlaetholwr Gwyddelig Charles Stewart Parnell.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Manning, Stephen. Evelyn Wood VC: Pillar of Empire (Barnsley, Pen & Sword, 2007).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Ffilm o angladd Syr Evelyn Wood ar wefan British Pathé