Neidio i'r cynnwys

Fondue

Oddi ar Wicipedia
Fondue o'r Swistir

Mae Fondue yn bryd bwyd o'r Swistir, Ffrainc a'r Eidal sef caws wedi'i doddi mewn pot cymunedol dros losgwr bach. Caiff ei fwyta trwy drochi ffyrc hir gyda bara i mewn i'r caws. Daw'r gair o'r ferf Ffrangeg fondre ('toddi').

Cafodd ei wneud yn bryd bwyd cenedlaethol gan Undeb Caws y Swistir yn ystod y 1930au.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Fondue cig
Eginyn erthygl sydd uchod am gaws. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.