Friederike Caroline Neuber
Friederike Caroline Neuber | |
---|---|
Ganwyd | Friederike Caroline Weißenborn 9 Mawrth 1697 Reichenbach im Vogtland |
Bu farw | 30 Tachwedd 1760 Laubegast |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor, actor llwyfan |
Awdures ac actores o'r Almaen oedd Friederike Caroline Neuber (9 Mawrth 1697 – 30 Tachwedd 1760) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur ac actor llwyfan.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Friederike Caroline Weissenborn ar y 9fed o Fawrth 1697 yn Reichenbach im Vogtland i Daniel Weissenborn a'i wraig, Anna Rosine Weissenborn, née Anna Rosine Wihelmine. Roedd ei thad yn arolygydd llys cyfreithiol ac roedd ei mam wedi'i haddysgu'n dda iawn. Ganddi hi y dysgodd Caroline sut i ddarllen ac ysgrifennu, a hi hefyd ddysgodd Ffrangeg iddi. Roedd ei thad yn ddyn gormesol a bu'n curo ei mam hyd nes ei marwolaeth gynnar ym 1705. Yn 20 oed, ym 1717, llwyddodd Caroline i redeg i ffwrdd o gartref gyda Johann Neuber, clerc a fu'n gweithio i'w thad. Priododd y cwpwl flwyddyn yn ddiweddarach, ym 1718. Bu i'r ddau ohonynt fwrw prentisiaeth theatrig gyda chwmnïau teithiol Christian Spiegelberg (1717–22) a Karl Caspar Haack (1722-25).[1][2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Fe'i hystyrir yn un o'r actoresau a'r rheolwyr actorion enwocaf yn hanes theatr yr Almaen, a bu'n ddylanwadol yn natblygiad theatr fodern yr Almaen. Gweithiodd Neuber hefyd i wella statws cymdeithasol ac artistig actorion ac actoresau o'r Almaen, gan bwysleisio techneg naturiolaidd. Yn ystod cyfnod pan oedd y rhan fwyaf o reolwyr theatrig yn yr Almaen yn ddynion, cofir am Caroline Neuber fel menyw hynod uchelgeisiol a lwyddodd, yn ystod ei gyrfa 25 mlynedd, i newid hanes y theatr, gan ddyrchafu statws theatr yr Almaen ochr yn ochr â'r arweinwyr theatraidd gwrywaidd ar y pryd, fel "ei gŵr Johann", y ffŵl llwyfan poblogaidd Johann Müller, prif actor y genhedlaeth nesaf Johann Schönemann, Gotthold Ephraim Lessing, ac yn bennaf Johann Gottsched.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Caroline Neuber: German actress and manager". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 11 April 2016.
- ↑ Peter Kümmel, "With Anger and Courage", Die Zeit, rhif 48 (cyfieithiad Saesneg o'r Almaeneg) (online, adalwyd 11 Ebrill 2016)
- ↑ "Caroline Neuber: German actress and manager". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 11 Ebrill 2016.