Gemau Olympaidd yr Haf 1920
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 1920 |
Dechreuwyd | 20 Ebrill 1920 |
Daeth i ben | 12 Medi 1920 |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1916 |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1924 |
Lleoliad | Olympisch Stadion Antwerp, Antwerp |
Gwladwriaeth | Gwlad Belg |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/antwerp-1920 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1920 (Ffrangeg: Jeux olympiques d'été de 1920, Iseldireg: Olympische Zomerspelen van 1920, Almaeneg: Olympische Sommerspiele 1920), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r VII Olympiad rhwng 14 Awst a 12 Medi yn Antwerp, Gwlad Belg.
Dyma oedd y Gemau Olympaidd cyntaf yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf a cafodd y Gemau eu cynnal yng Ngwlad Belg fel teyrnged i bobl Gwlad Belg. Ohewrwydd sancsiynau yn erbyn y gwledydd cafodd eu beio am gychwyn y rhyfel ni chafodd Yr Almaen Awstria, Bwlgaria, Hwngari na'r Ymerodraeth Otomanaidd wahoddiad i gystadlu. Penderfynodd Yr Undeb Sofietaidd nad oedden nhw am gystadlu.
Y Gemau
[golygu | golygu cod]Dyma'r Gemau Olympaidd cyntaf lle cafodd Y Llw Olympaidd ei gyhoeddi a'r cyntaf lle cafofdd colomennod gwyn eu rhyddhau yn ystod y Seremoni Agoriadol fel symbol o heddwch. Datgelwyd y Faner Olympaidd am y tro cyntaf hefyd gyda'r pum cylch yn symboleiddio undod y pum cyfandir[1].
Cafwyd wythnos o chwaraeon y gaeaf gyda Sglefrio ffigyrau yn ymddangos am y tro cyntaf ers 1908 a gyda hoci iâ yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Gemau.
Medalau'r Cymry
[golygu | golygu cod]Llwyddodd John Ainsworth-Davis[2] a Cecil Griffiths[3][4] i ennill medal aur yn y ras gyfnewid 4 x 400m a casglodd Paolo Radmilovic ei bedwaredd medal aur wrth sgorio'r gôl fuddugol yn rownd derfynol y Polo dŵr yn erbyn Gwlad Belg[5] gyda Chymro arall, Christopher Jones, hefyd yn yr un tîm[6].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ IOC (2018-04-25). "Antwerp 1920 Summer Olympics - Athletes, Medals & Results". Olympic Channel (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-09.
- ↑ "John Ainsworth-Davis". Olympedia. Cyrchwyd 8 July 2021.
- ↑ "Cecil Griffiths". Welsh Athletics Hall of Fame.
- ↑ Hanna, John (2014). Only Gold Matters: Cecil Griffiths, The Exiled Olympic Champion. Chequered Flag Publishing. ISBN 978-0-9569460-5-8.
- ↑ "Paul Radmilovic". Sports-Reference.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-18. Cyrchwyd 2016-08-16.
- ↑ "Christopher Jones". Olympedia.