Gratian (trawsfeddiannwr)
Gratian | |
---|---|
Ganwyd | 4 g |
Bu farw | 407 Britannia |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | ymerawdwr Rhufain |
Cadfridog Rhufeinig a wrthryfelodd yn erbyn yr ymerawdwr yn nhalaith Prydain oedd Gratian (bu farw 407).
Wedi marwolaeth Marcus, oedd wedi gwrthryfela yn erbyn yr ymerawdwr ym Mhrydain, cyhoeddwyd Geatian yn ymerawdwr gan y fyddin Rufeinig ym Mhrydain tua dechrau 407. Yn ôl Orosius, roedd y frodor o Brydain. Ar 31 Rhagfyr 406, roedd nifer o lwythau Almaenig, yn cynnwys y Fandaliaid, yr Alaniaid a'r Sueviaid, wedi croesi afon Rhein, oedd wedi rhewi, i ymosod ar Gâl. Tros fisoedd cynnar 407, lledaenodd yr Almaenwyr dros Gâl, gan gyrraedd hyd Boulogne. Dywed Zosimus fod y milwyr ym Mhrydain yn awyddus i groesi i Gâl i'w gwrthwynebu, ond nid oedd Gratian yn barod i gytuno. Roedd y milwyr yn anfodlon ar hyn, a llofruddiasant ef, gan ddewis Cystennin III fel ei olynydd.
Mae gan Sieffre o Fynwy gymeriad o'r enw Gracianus Municeps, sydd efallai yn seiliedig ar Gratian, yn ei Historia Regum Britanniae.