Neidio i'r cynnwys

Gropecunt Lane

Oddi ar Wicipedia
Grope Lane, Amwythig.

Yn yr Oesoedd Canol yn Lloegr, roedd Gropecunt Lane yn enw stryd Saesneg sy'n cyfeirio at y ffaith fod puteindra yn cael ei ymarfer yno. Ar un adeg roedd yn enw cyffredin yn nhrefi a dinasoedd Lloegr (ceir un enghraifft o ddinas Dulyn yn Iwerddon hefyd).

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Mae amrywiadau ar yr enw yn cynnwys "Gropecunte", "Gropecountelane", "Gropecontelane", a "Groppecountelane". Yn y rhan fwyaf o enghreifftiau ymddengys fod yr enw yn gyfuniad o'r geiriau Saesneg "grope" ('ymbalfalu, teimlo ei ffordd') a "cunt" ('cont'). Daw'r enghraifft gynharaf o ddefnyddio'r gair grope i gyfeiriad at gyffyrddio'n rhywiol o 1380 ac mae cunt yn enw Saesneg Canol adnabyddus am organau rhyw merch.[1] Yn nes ymlaen lledneiswyd yr enw gan amlaf gan ei droi'n enwau fel 'Grape Lane'

Cofnodir yr enghraifft gynharaf mewn dogfen o 1230 am stryd ""Gropecuntlane" yn Llundain.[2] Hefyd yn Llundain, roedd lonydd o'r un enw yn Southwark, Smithfield, Shoreditch, Clerkenwell a Westminster. O gwmpas Lloegr ceir enghreifftiau cynnar eraill o Amwythig, Rhydychen, Southampton, Henffordd, Reading a Worcester, i gyd gyda'u "Grope Lane" yng nghanol y dref; ac roedd "Gropecunt Lane" i'w cael yn Newcastle a Bryste.

Lleoliadau amlwg oedd yr rhain, yn agos i'r prif farchnadoedd lle byddai digon o gwsmeriaid ar gael.

Ceir un enghraifft o "Gropecunt Lane" o Ddulyn, ond does dim enghreifftiau o'r Alban nac o Gymru chwaith: yn achos Cymru, Cymraeg oedd iaith pawb bron a bychain iawn oedd y bwrdeistrefi Seisnigaidd mewn cymhariaeth â threfi dros Glawdd Offa.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Oxford English Dictionary, d.g. grope, cunt". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-06-25. Cyrchwyd 2009-04-14.
  2. "Oxford English Dictionary, d.g. cunt". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-06-25. Cyrchwyd 2009-04-14.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]