Gwrthdaro'r banditiaid yn Nigeria
Banditiaid arfog yn eu gwersyll yn Nigeria (Chwefror 2021). | |
Enghraifft o'r canlynol | gwrthdaro |
---|---|
Rhan o | Herder–farmer conflicts in Nigeria |
Dechreuwyd | 2011 |
Lleoliad | North West |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwrthdaro cyfredol yn Nigeria yw gwrthdaro'r banditiaid a ymleddir rhwng lluoedd y llywodraeth ffederal ac amryw gangiau troseddol, milisiâu ethnig, a therfysgwyr, a elwir yn gyffredinol yn "fanditiaid". Lleolir y gwrthdaro yn bennaf yng ngogledd-orllewin y wlad, gan gynnwys taleithiau Zamfara a Niger. Cychwynnodd yn 2011 yn bennaf o ganlyniad i'r ansefydlogrwydd a achoswyd gan y gwrthdaro cymunedol a'r gystadleuaeth dros dir rhwng bugeiliaid nomadaidd (Ffwlanïaid Mwslimaidd yn bennaf) a ffermwyr (Hawsaid Cristnogol yn bennaf). Er mai arian ydy prif gymhelliad y gangiau, mae banditiaeth yn Nigeria yn gysylltiedig â gwrthdaro ethnig a chrefyddol yn ogystal â thor-cyfraith cyfundrefnol ac herwriaeth.
Nodweddir ymosodiadau'r banditiaid gan gyrchoedd ar bentrefi a threfi i ladd, treisio, ac herwgipio'r trigolion, ac i ysbeilio a llosgi tai. Rhwng Rhagfyr 2020 a Gorffennaf 2021, cipiwyd mwy na mil o ddisgyblion o'u hysgolion a'u dal yn wystlon am bridwerth.[1] Mae miloedd o Nigeriaid wedi ffoi i rannau eraill o'r wlad i geisio osgoi'r banditiaid.
Banditiaeth yw un o'r prif fygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol Nigeria, ac mae'r gwrthdaro hwn yn cyd-ddigwydd â sawl rhyfel ac argyfwng cyfredol arall yn y wlad, gan gynnwys jihad Boko Haram, gwrthryfel Pobl Frodorol Biaffra, a'r argyfwng olew yn Nelta Niger.[1]
Llinell amser o'r prif ymosodiadau
[golygu | golygu cod]- 18 Ebrill 2020
- Llofruddiwyd 47 o bobl mewn pentrefi yn Nhalaith Katsina yn ystod oriau mân y bore, gan grwpiau o ryw 300 o ddynion arfog.[2]
- 4–6 Ionawr 2022
- Llofruddiwyd mwy na 200 o bobl yn Nhalaith Zamfara, gan ddynion arfog a deithiodd o bentref i bentref ar feiciau modur.[3]
- 26 Mawrth 2022
- Ymosodwyd ar Faes Awyr Kaduna, gan ladd un gwarchodwr ar y llwybr glanio. Cafodd yr ymosodwyr eu gyrru i ffwrdd gan filwyr a oedd yn diogelu'r maes awyr.[4]
- 28 Mawrth 2022
- Ymosodwyd ar drên ar ei daith o'r brifddinas Abuja i Kaduna gan ddynion arfog, a bu hefyd ffrwydrad.[5] Lladdwyd o leiaf wyth o bobl[6] ac herwgipiwyd dros 60 o'r teithwyr.[7] Yn ôl y llywodraeth, cyflawnwyd yr ymosodiad gan fanditiaid yn cydweithio â therfysgwyr jihadaidd, mwy na thebyg Boko Haram. Ymatebodd y lluoedd arfog gyda chyrch awyr ar fintai o "derfysgwyr" mewn coedwig ar y ffin rhwng taleithiau Kaduna a Niger.[8] Rhyddhawyd pob un o'r gwystlon erbyn 6 Hydref 2022.[9]
- 23–24 Rhagfyr 2023:
- Ymosodwyd ar 17 o gymunedau gwledig yn Nhalaith y Llwyfandir, gan ladd mwy na 160 o bobl ac anafu o leiaf 300.[10] Nid yw'r un grŵp wedi hawlio'r cyflafanau eto, ond credir mai milisiâu Ffwlani sydd ar fai.[11] Cafodd yr ymosodiadau eu galw'n "Nadolig Du" gan y wasg yn Nigeria.[12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "Nigeria's security crises - five different threats", BBC (19 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Ionawr 2024.
- ↑ (Saesneg) "Armed bandits kill at least 47 in Nigeria’s Katsina state: Police[dolen farw]", Al Jazeera (19 Ebrill 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
- ↑ (Saesneg) "Nigeria motorbike gang attack: Death toll rises to 200", BBC (9 Ionawr 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
- ↑ (Saesneg) Abubakar Ahmadu Maishanu, "Gunmen attack Kaduna Airport, kill official", Premium Times (26 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Mawrth 2022.
- ↑ (Saesneg) Garba Muhammad, "Loud blast, gunshots as suspected bandits attack Nigerian train", Reuters (30 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
- ↑ (Saesneg) Dirisu Yakubu, "Abuja-Kaduna Train Attack: Politician, medical doctor, unionist among dead passengers", Vanguard (29 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
- ↑ (Saesneg) Chinelo Obogo, "dudalen we wreiddiol Terrorists free 4 Abuja-Kaduna train attack victims", The Sun ( 26 Gorffennaf 2022). Adalwyd ar 2 Ionawr 2024.
- ↑ (Saesneg) Odita Sunday a Njadvara Mua, "Aftermath of Kaduna train bombing: Military raids kill scores of terrorists", The Guardian (1 Ebrill 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
- ↑ (Saesneg) "23 Remaining Passengers of the Abuja-Kaduna Train Attack Released", (6 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
- ↑ (Saesneg) "At least 160 dead and 300 wounded after attacks by armed gangs in Nigeria", The Guardian (25 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
- ↑ (Saesneg) Chinedu Asadu, "At least 140 villagers killed by suspected herders in weekend attacks in north-central Nigeria", Associated Press (26 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
- ↑ (Ffrangeg) "Après les massacres du «Noël noir», le centre du Nigeria en deuil réclame justice", Radio France internationale (28 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.