Henry Robertson
Henry Robertson | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mehefin 1816 Banff |
Bu farw | 22 Mawrth 1888 Llandderfel, Neuadd y Palé |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, peiriannydd |
Swydd | Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Plant | Henry Beyer Robertson |
Peiriannydd ac Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Feirionnydd oedd Henry Robertson (11 Ionawr 1816 – 22 Mawrth 1888).
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Henry Robertson yn nhref Banff yn yr Alban ar 11 Ionawr 1816 yr ifancaf o wyth o blant i Duncan Robertson, gweithiwr gyda Cyllid y Wlad. Cafodd ei addysg yn ysgolion y dref a Choleg y Brenin, Prifysgol Aberdeen lle graddiodd MA [1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Priododd Elizabeth Dean (1822-1892) yn Llundain ym 1846. Ganwyd iddynt tair merch: Elizabeth yn 1852, Annie ym 1855 a Henrietta ym 1858 a mab - Syr Henry Beyer Robertson (1862-1948).
Gyrfa fel Peiriannydd
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Robertson ar ei yrfa beirianyddol yn gweithio ar brosiectau ym mhorthladd Glasgow. Ym 1842 cafodd wahoddiad i ddod i Gymru i geisio adfer hen waith haearn Brymbo a sefydlwyd yn wreiddiol gan John Wilkinson ond a oedd wedi mynd yn segur erbyn hynny. Sylweddolodd yn fuan y byddai parhad y gwaith yn ddibynnol ar y diwydiant rheilffordd yn gyntaf fel modd i ddosbarthu'r nwyddau o ffowndri Brymbo ac yna er mwyn creu galw am ei gynnyrch. Bu wedi hynny yn gysylltiedig â nifer fawr o brosiectau adeiladu rheilffordd yng Nghymru a'r Gororau gan gynnwys y llinellau o Gaer i Henffordd, y rheilffordd o Riwabon i Ddolgellau a rheilffordd Canol Cymru o'r Amwythig i Lanymddyfri Roedd yn gadeirydd Cwmni Rheilffordd Llangollen a Chorwen, Cwmni Rheilffordd Corwen a'r Bala, Cwmni Rheilffordd Bro Llangollen, Cwmni Calch y Mwynglawdd, Cwmni Pŵer Glo Brychtyn a Phlas ac yn gyfarwyddwr ar nifer o gwmnïau peirianyddol a diwydiannol eraill. [2]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Etholwyd Robertson yn gyntaf fel un o'r ddau Aelod Seneddol dros Swydd yr Amwythig mewn isetholiad ym 1862, ildiodd ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 1865. Cafodd ei ail-ethol i'r un sedd yn Etholiad Cyffredinol 1874. Erbyn etholiad 1885 cafodd cynrychiolaeth Swydd yr Amwythig ei gostwng i ddim ond un cynrychiolydd a gan mae Robertson oedd yr ail aelod collodd ei le gan benderfynu ceisio am sedd Meirionnydd a oedd wedi dod yn rhydd ar ôl ymddeoliad Samuel Holland. Roedd rhywfaint o anniddigrwydd bod un o du allan i'r etholaeth nad oedd yn siarad Cymraeg wedi ei ddewis gan Rhyddfrydwyr yr etholaeth a chafodd ei herio nid yn unig gan Geidwadwr ond hefyd gan Ryddfrydwr Annibynnol - Morgan Lloyd bargyfreithiwr ac aelod o deulu hynafol Llwydiaid y Cynfal Trawsfynydd [3]. Fe lwyddodd Robertson i gadw'r sedd i'r Rhyddfrydwyr "swyddogol" ond ychydig ar ôl yr etholiad fe dorrodd ei gysylltiad â Phlaid Ryddfrydol swyddogol y Brif Weinidog William Gladstone dros achos hunan reolaeth i'r Iwerddon a bu'n eistedd fel Rhyddfrydwr Unoliaethol am weddill eisteddiad y Senedd. Penderfynodd beidio ac ail sefyll yn etholiad 1886 gan ildio'r sedd i'r Rhyddfrydwr Gladstonaidd Thomas Edward Ellis
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Tua 1869 prynodd Robertson Ystâd y Pale ger Llandderfel ac yno y bu farw ar 22 Mawrth 1888. Cafodd ei gladdu ym mynwent Llandderfel.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur ar lein Henry Robertson http://yba.llgc.org.uk/cy/c-ROBE-HEN-1816.html?query=Henry+Robertson&field=name
- ↑ http://www.gracesguide.co.uk/Henry_Robertson
- ↑ Morgan Lloyd Y Bywgraffiadur ar lein http://yba.llgc.org.uk/cy/c-LLOY-MOR-1820.html?query=Morgan+Lloyd&field=name
- ↑ Aberystwyth Observer 31 Mawrth 1888 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3045045/ART65
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Samuel Holland |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1885 – 1886 |
Olynydd: Thomas Edward Ellis |