Huw Lloyd Edwards
Huw Lloyd Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1916 |
Bu farw | 1975 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Cyflogwr | |
Plant | Eleri Llwyd |
Dramodydd o Gymru oedd Huw Lloyd Edwards (1916 – 1975). Bu'n athro Saesneg yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, ac wedyn yn ddarlithydd dylanwadol yn Y Coleg Normal, Bangor.
Enillodd Dlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958 am ei ddrama Cyfyng Gyngor, a bu'n feirniad ar y gystadleuaeth wedi hynny.
Disgrifiwyd Huw Lloyd Edwards yn y 1970au fel "dramodydd yr oedd y gorffennol yn ei swyn-gyfareddu [...] nid i ddianc iddo rhag gorfod wynebu dryswch, ac ing yn wir, ein bywyd cyfoes ond er mwyn ceisio ei amgyffred yn well ac o'r herwydd canfod hwyrach fod yna obaith am ffordd ymwared o ganol y trybestod i gyd."[1]
Alegorïau yw llawer o'i ddramâu.
Llwyfanwyd a chyfansoddwyd nifer o'i ddramâu ar gyfer myfyrwyr Adran Ddrama, Y Coleg Normal.
Dramâu
[golygu | golygu cod]- Cyfyng Gyngor (1958)
- Ar Ddu A Gwyn (1963) [2]
- Pros Kairon (1967)[3]
- Y Gŵr O Wlas Us
- Y Gwr O Gath Heffer
- Y Llyffantod (1973)[1]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Edwards, Huw Lloyd (1973). Y Llyffantod. Gwasg Gee. ISBN 9780707400631.
- ↑ Edwards, Huw Lloyd (Rhagfyr 1963). Ar Ddu A Gwyn. Gwasg Gee. ISBN 9780900996948.
- ↑ Edwards, Huw Lloyd (Rhagfyr 1967). Pros Kairon : Drama Mewn Tair Act. Gwasg Gee ASIN: B0000CO60R.