Ieithoedd Niger-Congo
Gwedd
Mae'r ieithoedd Niger-Congo yn deulu ieithyddol o ieithoedd a siaredir yn Affrica. Hwn yw'r teulu ieithyddol mwyaf yn Affrica, ac efallai y teulu ieithyddol mwyaf yn y byd o ran y nifer o ieithoedd gwahanol ynddo, er bod hyn yn ddadleuol.
Prif ieithoedd
[golygu | golygu cod]Y prif ieithoedd yn y teulu Niger-Congo yw:
- Ieithoedd Kordofanaidd: de Sudan, o gwmpas bryniau Nuba.
- Mande: Gorllewin Affrica; yn cynnwys Bambara, prif iaith Mali, a Soninke, iaith a siaredir yn Mali, Senegal a Mauritania gyda rhai'n arddel N'Ko er mwyn lledaenu llythrennedd
- Atlantig-Congo
- Ieithoedd Atlantig: yn cynnwys Wolofeg, yn Senegal a Gambia, a Fula, a siaredir o gwmpas y Sahel.
- Ijoaidd yn Nigeria, yn cynnwys Ijo a Defaka.
- Dogon, a siaredir yn Mali
- Volta-Congo
- Ieithoedd Senufo: a siaredir yn Arfordir Ifori a Mali, yn cynnwys Senari a Supyire.
- Ieithoedd Gur: yn cynnwys Dagbani yng ngogledd Ghana, siaredir hefyd yn Arfordir Ifori, Togo, Bwrcina Ffaso a Mali.
- Ieithoedd Adamawa-Ubangi: yn cynnwys Sango, a siaredir yng Ngweriniaeth Canol Affrica.
- Ieithoedd Kru: a siaredir yng Ngorllewin Affrica, yn cynnwys Bété, Nyabwa, a Dida.
- Ieithoedd Kwa: yn cynnwys Akan, a siaredir yn Ghana a Ieithoedd Gbe a siaredir yn Ghana, Togo, Benin, a Nigeria; Ewe yw'r fwyaf adnabyddus.
- Ieithoedd Benue-Congo, yn cynnwys:
Ceir elfen gref o gontiniwm tafodiaith a chyd-ddeallusrwydd iaith o fewn siaradwyr y prif deuluoedd yma.