Neidio i'r cynnwys

Jacobus de Voragine

Oddi ar Wicipedia
Jacobus de Voragine
Ganwydc. 1228 Edit this on Wikidata
Varazze Edit this on Wikidata
Bu farwGorffennaf 1298 Edit this on Wikidata
Genova Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, diwinydd, croniclwr, archesgob, llenor, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddarchbishop of Genoa Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl13 Gorffennaf Edit this on Wikidata

Croniclydd Eidalaidd oedd Jacobus de Voragine (c. 1228Gorffennaf 1298).[1] Fe'i ganwyd yn Varagine (Varazze), Liguria, yr Eidal, a daeth yn Archesgob Genova. Mae'n fwyaf adnabyddus fel casglwr Y Llith Euraid, un o weithiau crefyddol mwyaf poblogaidd yr Oesoedd Canol Diweddar.

Fe'i cyfieithwyd i'r Gatalaneg yn y 13g gyda'r argrraffiad cyntaf yn cael ei gyhoeddi yn Barcelona yn 1494. Bron mor boblogaidd oedd ei gasgliad o bregethau a alwyd hefyd yn "Aurei" a chafwyd sawl argraffiad yn y 15g o'r Pregethau hyn a gwaith o'r enw Mariale a argraffwyd yn Fenis yn 1497 ac yna ym Mharis yn 1503.

Sermones de Sanctis gan Jacobus de Voragine (Fenis, 1497). Mae'r dudalen deitl yn dangos yr awdur fel pregethwr.
Sermones de Sanctis gan Jacobus de Voragine (Fenis, 1497). Mae'r dudalen deitl yn dangos yr awdur fel pregethwr. 

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Legenda sanctorum (= Y Llith Euraid)
  • Chronicon januense
  • Sermones de sanctis per circulum anni feliciter
  • Laudes Beatae Mariae Virginis

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "'Varagine' yn y cofnodion cynnar, a olygai 'o Varazze'" (Christopher Stace, cyf., The Golden Legend: Selections (Penguin, 1998), tud. x).