Jim Bowen
Jim Bowen | |
---|---|
Ganwyd | Peter Williams 20 Awst 1937 Heswall |
Bu farw | 14 Mawrth 2018 Melling-with-Wrayton |
Man preswyl | Swydd Gaerhirfryn |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, digrifwr stand-yp |
Gwefan | http://www.jimbowen.tv |
Roedd James Whittaker (ganwyd Peter Williams, 20 Awst 1937 – 14 Mawrth 2018) yn cael ei adnabod wrth ei enw llwyfan Jim Bowen; roedd yn gomedïwr ac yn bersonoliaeth teledu yn yr iaith Saesneg. Roedd yn fwyaf adnabyddus fel cyflwynydd y rhaglen cwis a darts Bullseye ar ITV rhwng 1981 a 1995[1].
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Bowen yn Heswall, Penbedw. Cafodd ei fabwysiadu gan Joe ac Annie Whittaker (a newidiwyd ei enw i James Whittaker). Cafodd ei fagu yn Clayton-le-Moors, Swydd Gaerhirfyn a'i addysgu yn ysgol ramadeg Accrington gan ymadael efo dim ond un lefel O. Wedi ymadael a'r ysgol bu'n gweithio fel dyn lludw (dyn bins) yn Burnley.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cyflawnodd Bowen gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol (gwasanaeth milwrol gorfodol) gyda Chorfflu Brenhinol Ordnans y Fyddin rhwng 1955 a 1957, fel hyfforddwr ymarfer corff. Wedi ymadael a'r fyddin aeth i Goleg Hyfforddi Esgobol Caer i hyfforddi i fod yn athro ymarfer corff. Cafodd ei benodi'n ddirprwy brifathro ysgol gynradd Caton, Swydd Gaerhirfryn[2].
Gyrfa teledu
[golygu | golygu cod]Y tu allan i'w oriau gwaith fel athro bu Bowen yn aelod o gwmni drama lleol, gan fagu diddordeb yn y maes perfformio. Yn y 1960au bu'n gweithio gyda'r nos fel comedïwr mewn clybiau gwaith, gan barhau i weithio fel athro yn ystod y dydd. Ym 1971 dechreuodd cwmni teledu Granada ddarlledu rhaglen gomedi o'r enw The Comedians a oedd yn cynnwys slotiau byr gan bron i hanner cant o gomediwyr a oedd yn gweithio'r cylchdeithiau clwb. Bu Bowen yn un o'r rhai hynny a ymddangos ar y rhaglen. Wedi llwyddiant y Comedians rhoddodd y gorau i'w gwaith fel athro gan weithio llawn amser yn y byd adloniant[3]. Ymddangosodd ar nifer o raglenni gan gynnwys The Wheeltappers and Shunters Social Club, The Last of the Summer Wine a'r gyfres dditectif Jonathan Creek.
Bullseye
[golygu | golygu cod]Ym 1981 daeth Bowen yn gyflwynydd rhaglen-gêm newydd ar ITV o'r enw Bullseye a oedd yn cymysgu cwis gwybodaeth cyffredinol gyda dartiau. Daeth y sioe yn boblogaidd iawn gan ddenu cynulleidfaoedd o 15 i 17 miliwn o wylwyr. Parhaodd y gyfres am 14 mlynedd.
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ym 1959 priododd Bowen cyd athro iddo Phyllis Owen a bu iddynt fab a merch.
Bu farw o strôc ar 14 Mawrth 2018 yn 80 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Guardian 14/3/2018 Obituary Jim Bowen adalwyd 14 Mawrth 2014
- ↑ BBC Jim Bowen: Comedian and former Bullseye host dies at 80 adalwyd 14 Mawrth 2014
- ↑ Gwefan Jim Bowen Biography adalwyd 14 Mawrth 2014