Neidio i'r cynnwys

John Lennon

Oddi ar Wicipedia
John Lennon
FfugenwDr. Winston O’Boogie Edit this on Wikidata
GanwydJohn Winston Lennon Edit this on Wikidata
9 Hydref 1940 Edit this on Wikidata
Lerpwl, Liverpool Maternity Hospital Edit this on Wikidata
Bu farw8 Rhagfyr 1980 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylLerpwl, Dinas Efrog Newydd, Mendips, Menlove Avenue Edit this on Wikidata
Label recordioApple Records, Atco Records, Capitol Records, Parlophone Records, EMI, Geffen Records, Polydor Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Celf Lerpwl
  • Calderstones School
  • Dovedale Primary School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynhyrchydd recordiau, llenor, actor, canwr-gyfansoddwr, gitarydd, cynhyrchydd ffilm, bardd, cyfansoddwr, actor ffilm, pianydd, canwr, arlunydd, cyfarwyddwr ffilm, person cyhoeddus, rhyddieithwr, ymgyrchydd heddwch, gweithredydd gwleidyddol, artist recordio Edit this on Wikidata
Adnabyddus amImagine Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc, roc y felan, cerddoriaeth arbrofol, cerddoriaeth boblogaidd, roc poblogaidd, roc celf, roc seicedelig, roc a rôl, beat music, cerddoriaeth roc caled, roc arbrofol Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata
TadAlfred Lennon Edit this on Wikidata
MamJulia Lennon Edit this on Wikidata
PriodCynthia Lennon, Yoko Ono Edit this on Wikidata
PartnerMay Pang Edit this on Wikidata
PlantJulian Lennon, John Ono Lennon, John Lennon III, Sean Lennon Edit this on Wikidata
PerthnasauMimi Smith Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Rock and Roll Hall of Fame, Gwobr yr Academi am y Sgôr Wreiddiol Gorau, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.johnlennon.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Cerddor, canwr, cyfansoddwr, awdur ac ymgyrchydd heddwch Seisnig oedd John Winston Ono Lennon, MBE (ganwyd John Winston Lennon) (9 Hydref, 19408 Rhagfyr, 1980). Daeth i ymlygrwydd fel un o aelodau'r band "The Beatles". Gyda Paul McCartney, ffurfiodd Lennon un o bartneriaethau cyfansoddi caneuon mwyaf llwyddiannus a dylanwadol yr 20g gan "ysgrifennu peth o'r gerddoriaeth mwyaf poblogaidd yn hanes roc a rol".[1] Caiff ei ystyried fel yr ail gyfansoddwr mwyaf llwyddiannus yn hanes siart sengl y Deyrnas Unedig ar ôl McCartney.[2] Cafodd ei eni yn Lerpwl. Roedd ef o dras Wyddelig (Lennon, o Mac Leannain efallai). Cafodd ei ladd yn Efrog Newydd.

Arddangosodd Lennon ei natur wrthryfelgar a'i ffraethineb yn ei gerddoriaeth, ei ffilmiau, ei lyfrau ac mewn cyfweliadau a chynhadleddau i'r wasg. Roedd yn ddadleuol fel ymgyrchydd heddwch ac artist gweledol. Ar ôl The Beatles, cafodd Lennon yrfa unigol lewyrchus gydag albymau clodwiw megis "John Lennon/Plastic Ono Band" ac Imagine a'i ganeuon eiconig fel "Give Peace a Chance" ac "Imagine". Pan "ymddeolodd" er mwyn magu ei fab Sean, dychwelodd Lennon gydag albwm newydd, Double Fantasy, ond cafodd Lennon ei lofruddio llai na mis wedi i'r albwm gael ei rhyddhau. Aeth yr albwm i ymlaen i ennill Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn ym 1981.

Yn 2002, mewn arolwg barn y BBC o'r 100 o Brydeinwyr Gorau, rhoddwyd Lennon yn yr wythfed safle. Yn 2004, rhoddodd cylchgrawn Rolling Stone Lennon ar rif 38 ar eu rhestr "The Immortals: The Fifty Greatest Artists of All Time" (Rhoddwyd The Beatles ar rif un). Yn yr un cylchgrawn yn 2008, cafodd ei ystyried y pumed canwr gorau erioed. Ar ôl ei farwolaeth, cafodd ei gyflwyno i'r "Songwriters Hall of Fame" ym 1987 ac i'r Rock and Roll Hall of Fame ym 1994.

Gwragedd

[golygu | golygu cod]
  1. Cynthia Powell (rhwng 1962 a 1968)
  2. Yoko Ono (ers 1969)

Disgograffiaeth

[golygu | golygu cod]

Gyda'r Beatles

[golygu | golygu cod]

Gwaith Unigol

[golygu | golygu cod]
  • Imagine
  • Mind Games
  • Walls and Bridges (1974)

Gyda Yoko Ono

[golygu | golygu cod]
  • Double Fantasy

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • In His Own Write (1964)
  • A Spaniard in the Works (1965)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. bbc.co.uk/dna/h2g2 "The Lennon-McCartney Songwriting Partnership" Cyfieithad o wefan bbc.co.uk, 04-11-05. Adalwyd ar 14-12-2006
  2. Top 100 Songwriters. Adalwyd 09-10-2009