Neidio i'r cynnwys

John Philip Sousa

Oddi ar Wicipedia
John Philip Sousa
Ganwyd6 Tachwedd 1854 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mawrth 1932 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Reading Edit this on Wikidata
Man preswylWashington, John Philip Sousa House Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Missouri Military Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd, person milwrol, cyfansoddwr, sport shooter, llenor, arweinydd band, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Stars and Stripes Forever Edit this on Wikidata
Arddullopera, military band Edit this on Wikidata
PriodJane Bellis Sousa Edit this on Wikidata
PlantJohn Philip Sousa II Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of Public Instruction, Royal Victorian Medal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Hall of Fame Americanwyr Mawr Edit this on Wikidata
llofnod

Cyfansoddwr ac arweinydd cerddorfa o'r Unol Daleithiau oedd John Philip Sousa (/ˈssə/;[1] 6 Tachwedd 1854 – 6 Mawrth 1932). Mae'n enwog am ei ymdeithganau milwrol a gwladgarol, ac fe'i elwir yn aml yn "Frenin yr Ymdeithganau" (Saesneg: The March King).[2]

Roedd yn fab i Bortiwgead ac Almaenes a chafodd ei eni a'i fagu yn Washington, D.C. Dysgodd y fiolin a damcaniaeth cerddoriaeth pan oedd yn blentyn, ac yn ei arddegau dysgodd y trombôn a dechreuodd arwain a chyfansoddi. Ymunodd â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau ym 1868 fel prentis ym Mand y Môr-filwyr, ac o 1880 hyd 1892 roedd yn arweinydd y seindorf hon.[3] Ffurfiodd fand ei hunan ym 1892 a theithiodd ar draws yr Unol Daleithiau ac Ewrop (1900–05) ac yn hwyrach y byd (1910–11) yn perfformio cerddoriaeth filwrol a symffonig.[4]

Cyfansoddodd 136 o ymdeithganau milwrol gan gynnwys "The Washington Post" (1889), "The Liberty Bell" (1893), a "The Stars and Stripes Forever" (1897), a "Semper Fidelis" (1888) sydd yn ymdeithgan swyddogol Corfflu'r Môr-filwyr. Cyfansoddodd 11 o operetâu rhwng 1879 a 1915, gan gynnwys El Capitan (1896), The Bride Elect (1897), a The Free Lance (1906). Ysgrifennodd gasgliad o ganeuon o nifer o wledydd dan y teitl National, Patriotic and Typical Airs of All Lands (1890) ar gyfer Adran y Llynges. Yn y 1890au datblygodd yr offeryn a elwir heddiw yn sousaffon.[3]

Ymunodd Sousa â Llynges yr Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a daeth yn bennaeth y ganolfan hyfforddi cerddorol yng Nghanolfan Lyngesol y Llynnoedd Mawr yn Illinois. Ym 1928 cyhoeddodd ei hunangofiant, Marching Along.[3] Cyflwynodd ei gyfansoddiad "The Royal Welch Fusiliers" i'r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol ym 1930 i nodi cysylltiad y gatrawd honno â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau, perthynas a ffurfiwyd yn ystod Gwrthryfel y Bocswyr ym 1900.[5] Bu farw Sousa yn 77 oed yn Reading, Pennsylvania, o drawiad ar y galon.[6]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Merriam-Webster. Hefyd yn aml: /ˈszə/.
  2. Bierley, Paul E. John Philip Sousa: American Phenomenon (Miami, Warner Bros. Publications, 2001 [1973]).
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) John Philip Sousa. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Awst 2013.
  4. Warfield, Patrick. "Making the Band: The Formation of John Philip Sousa's Ensemble", American Music, 24(1) Gwanwyn 2006, tt. 30–66.
  5. Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 135.
  6. (Saesneg) John Philip Sousa, Band Leader, Dies in Hotel at Reading. The New York Times (6 Mawrth 1932). Adalwyd ar 18 Awst 2013.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: