John Warren
John Warren | |
---|---|
Ganwyd | 1730 Cavendish |
Bu farw | 1800 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Esgob Bangor, Esgob Tyddewi, Archdeacon of Worcester |
Priod | Elizabeth Southwell |
Clerigwr Seisnig a fu'n Esgob Tyddewi ac yna'n Esgob Bangor oedd John Warren (1730 – 1800).
Cyn dod yn esgob, roedd Warren yn Archdddiacon Caerwrangon. Bu'n Esgob Tyddewi o 1779 hyd 1783. pan drosglwyddwyd ef i esgobaeth Bangor, lle bu hyd ei farwolaeth.
Yn ystod ei gyfnod ym Mangor bu mewn dwy ffrae sylweddol. Yn Hydref 1793, bu mewn dadl a chwmni mwyngloddio copr Mynydd Parys; dadleuai'r esgob fod y cwmni wedi addo talu am ail-adeiladu eglwys y plwyf yn Amlwch, gyda'r cwmni yn gwadu hyn. Bu'r ail ffrae yn 1796, pan apwyntiodd Warren ei nai ei hun yn Gofrestrydd, er ei fod dan oed. Pan geisiodd yr esgob ddiswyddo yr Is-gofrestrydd, Samuel Grindley, gwrthododd Grindley adael ei swyddfa. Bygythiwyd yr esgob a phistol, ac yn y diwedd llusgwyd ef ymaith gan ei wraig.