King Alisaunder
Llenyddiaeth Saesneg Canol |
---|
Barddoniaeth gynnar |
Yr adfywiad cyflythrennol |
Oes Chaucer |
Rhamant fydryddol Saesneg Canol yw King Alisaunder sy'n dyddio o ddechrau'r 14g ac yn debyg yn tarddu o Lundain. Mae ganddi 8,034 o linellau mewn cwpledi byrion. Mae'n seiliedig ar waith Eingl-Normaneg o ddiwedd y 12g o'r enw Roman de toute chevalerie. Enghraifft o chwedloniaeth Alecsandraidd yr Oesoedd Canol ydyw, sy'n adrodd hanes Alecsander Fawr. Yn ôl y chwedl hon, mab y Brenin Nectanebus o'r Aifft oedd Alecsander, wedi i'r brenin hwnnw swyno Olympias, gwraig Philip II, brenin Macedon, trwy hud i gael cyfathrach rywiol. Mae'r gerdd yn dilyn hynt ei enedigaeth, ei fagwraeth, ei olyniaeth i orsedd Macedon, concwest Carthago a dinasoedd eraill, a'i ryfeloedd yn erbyn Darius Fawr. Mae diwedd y gerdd yn ymwneud â'i anturiaethau yn Asia, ac yn cynnwys hanesion ei orchfygiadau, disgrifiadau o ddaearyddiaeth a rhyfeddodau'r dwyrain, stori ei garwriaeth â Candace, a'i dranc o ganlyniad i wenwyn. Ysgrifennir ei phenillion bywiog ar fesur hyblyg. Mae sylwadau yn awgrymu iddi gael ei chyfansoddi er mwyn ei thraddodi ar lafar, ac mae ei strwythur yn ddryslyd i raddau.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 540.