Neidio i'r cynnwys

Lidar

Oddi ar Wicipedia
`Defnyddir y 'lidar' hwn i sganio adeiladau, creigiau ayb i greu model 3D. Mae rhan ucha'r ddyfais yn troi 360 gradd, llorwedd.

Dull o fesur pellter gwrthrychau yw Lidar (neu LIDAR, LiDAR, a LADAR) sy'n gweithio drwy fesur pellter targed wedi'i oleuo gan olau laser. Mae'n bosibl mai talfyriad yw'r gair o'r Saesneg Light Detection And Ranging,[1] (neu Light Imaging, Detection, And Ranging), ond yn wreiddiol, credir iddo darddu drwy gyfuniad o ddau air: "light" a "radar", ond nid oes sicrwydd.[2][3] Defnyddir Lidar yn aml i greu mapiau o gydraniad uchel ac fe'i defnyddir ym meysydd geodeseg, geomateg, archaeoleg, daearyddiaeth, geomorffoleg, seismoleg, coedwigaeth, ffiseg atmosfferig, ALSM (airborne laser swath mapping) ac altimetreg. Weithiau ar lafar cyfeirir at lidar fel "sganio gyda laser" neu "sganio 3D".[2]

Cynhyrchir offer lidar gan nifer o gwmniau gan gynnwys Sick[4] a Hokuyo.[5]

Dyfesiwyd lidar yn y 1960au, bron yn syth wedi i Theodore Harold Maiman ddyfeisio laser. Roedd y dechnoleg yn gyfuniad o ffocysu laser ar wrthrych ac yna defnyddio radar (a ddyfeisiwyd gan y Cymro Edward George Bowen) i gyfrifo'r pellter drwy fesur yr amser a gymerai i'r golau ddychwelyd i'r ddyfais lidar.

Cymhwyswyd y teclun lidar cyntaf ar gyfer job o waith mewn meteoroleg, pan gafodd ei ddefnyddio i fesur pellter cymylau, ar gyfer gwaith ymchwil.[6] Erbyn taith ofod Apollo 15, roedd y gair ar wefusau'r cyhoedd a'r offer wedi'i dderbyn fel offer safonol i fesur pellter; fe'i defnyddiwyd gan y gofodwyr i fapio'r lleuad.

Defnydd

[golygu | golygu cod]

Cerbydau diyrrwr

[golygu | golygu cod]
Dyfais lidar ar gorun un o geir Google yn 2015; mae weithiau'n edrych yn debyg i olau car heddlu.

Defnyddir lidar gan geir robotaidd er mwyn synhwyro'r amgylchedd, yn enwedig y gwrthrychau o'u cwmpas, a chyfrifo lleoliad y cerbyd mewn perthynas iddynt; gall meddalwedd arbennig ac offer GPS (ee lleoliad drwy negeseuon o loerenau) greu llwybr diogel i'r cerbyd.[7] Mae sawl cwmni'n datblygu lidars ar gyfer cerbydau robotaidd gan gynnwys Google, SMART (Singapore-MIT Alliance for Research and Technology (SMART) a Faraday Future.[8]

Penderfynnodd Tesla beidio a defnyddio lidar yn eu cerbydau trydan, er ei bod yn defnyddio lidar yn eu chwaer gwmni SpaceX. Yn dilyn lladd un person yn haf 2016 mewn car Tesla yn UDA, mae'n bur debyg y bydd y cwmni'n gwneud tro pedol ac yn ei ddefnyddio.

Ar eu pen eu hunain, dangoswyd fod lidar yn ddiffygiol, ac felly defnyddir dull arall o synhwyro'r amgylchedd i'w atgyfnerthu e.e. synwyryddion uwchsonig, radar a chamerau goddefol, gweledol. Gwendid lidar ar ei liwt ei hun yw amgylchiadau ble ceir gwrthrychau rhyngddo a'r targed e.e. eira mawr, niwl tew, glaw mawr neu lwch. Nid yw'n arbennig ychwaith am synhwyro yn agos - yn 2016 dim ond gwrthrychau pellach na thua 30 metr oedd yn ei synhwyro, ac mae'r offer yn medru bod yn fawr ac yn gostus.[9]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "LIDAR—Light Detection and Ranging—is a remote sensing method used to examine the surface of the Earth". NOAA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-04. Cyrchwyd June 4, 2013.
  2. 2.0 2.1 Oxford English Dictionary. 2013. t. Entry for "lidar".
  3. James Ring, "The Laser in Astronomy." t. 672–673, New Scientist Mehefin 1963
  4. "Sick Senor Intelligence product portfolio". 2014-11-12. Cyrchwyd 2014-11-12.
  5. "Hokuyo scanning range finder". 2014-11-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-12. Cyrchwyd 2014-11-12.
  6. Goyer, G. G.; R. Watson (Medi 1963). "The Laser and its Application to Meteorology". Bulletin of the American Meteorological Society. 44 (9): 564–575 [568].
  7. Steve Taranovich, EDN. "Autonomous automotive sensors: How processor algorithms get their inputs." Gorffennaf 2016. Adalwyd Awst 2016.
  8. "Filipino turns ordinary car into autonomous vehicle - Motioncars | Motioncars". Motioncars.inquirer.net. 2015-05-25. Cyrchwyd 2016-02-22.
  9. cleantechnica.com; adalwyd 9 Hydref 2016.