Llyn y Bi
Gwedd
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.818962°N 3.975424°W |
Llyn yn y Rhinogydd yng Ngwynedd yw Llyn y Bi. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 6 acer, ychydig i'r dwyrain o Lyn Hywel a llechweddau'r Rhinog Fach ac Y Llethr. Mae ychydig yn is na Llyn Hywel, 1,451 troedfedd uwch lefel y môr.
Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn ymuno â nentydd eraill i ffurfio Afon Gamlan, sy'n llifo i'r dwyrain trwy Gwm Camlan i ymuno ag Afon Mawddach ger y Ganllwyd. Ceir rhywfaint o frithyll yn y llyn.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)