Lynmouth
Math | pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Lynton and Lynmouth |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Exmoor National Park |
Sir | Dyfnaint (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.2294°N 3.8294°W |
Pentref yn Nyfnaint, De-orllewin Lloegr, ydy Lynmouth.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Lynton and Lynmouth.
Cof Cymraes am Drychineb Lynmouth 15 Awst 1952
[golygu | golygu cod]"Mae gen i gof plentyn 4 oed gen i am wersylla ger Lynmouth efo grwp o ddarlithwyr (gan gynnwys fy nhad) a myfyrwyr. Roedd y babell ble y cysgais gyda fy 2 brawd wrth ymyl yr afon. Cawsom ein deffro gan law. Bu fy mrawd mawr 5 oed a minnau yn dadlau os dylen ni fynd i dweud fod dwr yn dod i fewni i’r babell (wedi cael gorchymun gan mam i beidio â gadael ein gwlau) Daeth 2 fyfyriwr a rhoi ni’n 3 ar un gwely gan gario ni i fyny’r rhiw tua’r prif babell. Hanner ffordd yno ddaru nhw gweiddi am help a gwelsom ni ein pabell yn diflannu i lawr yr afon. Gwelais fy nhad yn rhedeg tuag atom. Bu ofn arnaf y buasai yn ddig am cholli’r pabell ond cododd fi yn ei freichiau â’m cario tua’r prif pabell. Roedd y prif pabell yn llawn o bobl gyda fy nhad yn siarad iddynt. Dywedodd ei bod ef yn mynd i lawr i’r pentref i ddweud wrth bobl am y glaw. Cofiaf y geiriau “I am only taking volunteers with me” ond methais a deall pam oedd ei llais ef mor difrifol.
Y peth nesaf rwy’n cofio oedd deffro a gweld fod y babell yn wag heblaw am mam a’m mrodyr. Roedd hi yn brysur wrth y bwrdd a gofynnais beth oedd hi’n gwneud. Atebodd ei bod hi’n gwneud brechdannau a’r gyfer pawb pan daethon nhw yn ôl ond dyla i fynd yn ôl i cysgu gan ei bod hi ynghanol y nos. Pendronais pam y buasai pobl yn eisiau bwyd yng nghanol y nos cyn cysgu etoY bore canlynol roedd y dynion yn palu ffosydd o gwmpas y pebyll i gyfeirio y dwr glaw oddi wrthynt. Cafodd fy mrodyr a finnau llawer o hwyl yn neidio drosdynt gyda neb yn gwylltio gyda ni am fod dan draed ac hyd yn oed pan syrthiodd fy mrawd bach (bron 3 oed) i un o’r ffosydd a chael ei tynnu allan yn wlyb ac yn mwdlyd nid oedd neb yn grac gyda ni.
Nes ymlaen cyraeddodd milwyr. Cafodd fy mrodyr a finnau rhasys “piggy-back” ar gefn milwyr ar draws y caeau ble oedd dwr yn gorwedd gan gwneud y tir yn rhy fwdlyd i Landrover dod atom. Cawsom llawer o hwyl a’r peth mwyaf doniol oedd gweld un o’r milwyr yn cario Mam ar draws y cae. Wedyn deallasom fod mam a ninnau yn mynd adref ar y trên heb fy nhad oedd yn aros i cynorthwyo yn y pentref, Roeddem yn siomedig iawn gan fod y gwyliau wedi bod yn gymaint o hwyl. Ni sylweddolais am flynyddoedd fod trychineb wedi digwydd. Rwth Tomos [1]
Lladdwyd 32 o bobl pan dorrodd yr afon Lyn (Exmoor, Dyfnaint) ei glannau y diwrnod hwn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 10 Mehefin 2019